Fe adawodd Francisco Camps, cyn-lywydd y gymuned Valenciana, y llys yn ddyn rhydd, wedi ei gael yn ddi-euog o dderbyn llwgrwobrwyon yn yr achos Gurtel. Oriau wedyn, roedd yn barod wedi derbyn galwad ffôn gan Mariano Rajoy, ei gyd-bleidiwr (PP) ac yn awr prif weinidog Sbaen.
Ond wedi darllen ymhellach, daw’n amlwg nad oedd penderfyniad y rheithgor yn unfrydol – roedd yn bell o fod yn hynny! Achos mae rheithgor Sbaen yn wahanol iawn i’r un yr ydym ni yng Nghymru’n gyfarwydd ag ef. Ers i’r gyfundrefn gael ei hail-sefydlu 15 mlynedd yn ôl, mae gan y rheithgor naw aelod, (deuddeg yng Nghymru). Maen nhw’n gorfod esbonio, rhoi resymau, am eu penderfyniad: dweud pa rannau o’r dystiolaeth sydd wedi eu perswadio, a pha rai ddim. Ac yn olaf, sdim disgwyl iddyn nhw fod o unfryd. Fe wneith 5-4 y tro, ac felly oedd hi gyda Camps – 5 yn ei weld yn ddi-euog, a dyna ddigon. A hynny er gwaetha’r ffaith fod cyn-ddirprwy Camps a’i gyn brif swyddog eisoes wedi pledio’n euog i’r un drosedd. Roedd un neu ddau o’r tystion wedi methu â’u hargyhoeddi nhw.
Mae Camps wedi bod yn siarad ar y radio heddiw, a dyw e ddim yn barod i ddweud na fydd yn ceisio dychwelyd i wleidyddiaeth yn ei gymuned: roedd bod yn llywydd yn Valencia, meddai, y peth mwyaf, a’r gorau, y gallai unrhyw valenciano ei gyrraedd. Bydd rhai o’i wrthwynebwyr, sy’n dal i gredu ei fod yn euog, yn cynnal protest heno y tu fâs i’r llys. Bydd pawb arall yn disgwyl nawr i weld beth ddaw o’r achosion yn erbyn y barnwr Garzón, un ohonyn nhw ynghlwm wrth achos Camps.