Ychydig dros flwyddyn ers cadoediad ETA, 4 mis ers i’r mudiad terfysgaidd gyhoeddi diwedd ei ymgyrch arfog. 4 mis hefyd ers sefydlu’r Comisiwn Gwireddu Cydwladol, gyda’r bwriad o wireddu’r hyn a ddywedodd ETA drwy weithio gyda phob ran o gymdeithas y Basgwyr. Dros yr wythnos ddiwethaf mae aelodau’r Comisiwn wedi bod yno yn cynnal trafodaethau gyda phleidiau, undebau llafur, cyrff cyflogwyr, cynhorau a’r eglwys.
Yn awr maen nhw’n datgan nad oes dim un gweithred terfysgaidd – saethu, bomio, ymosod na bygythiad – wedi digwydd ers mis Hydref. Ond maen nhw’n mynd ymlaen i ofyn cam newydd gan aelodau a chyn-aelodau ETA: cael gwared o’r arfau sy’n dal mewn storfeydd ar hyd a lled y wlad. Ac o ddarllen yr hyn a ddywedir yn y cyfryngau Basgaidd heddiw, mae Batasuna a’r abertzale yn gytûn: rhaid delio gyda’r arfau nesaf.
Yn ddiddorol iawn, un o’r 5 aelod o’r Comisiwn yw Chris MacCabe, un a fu yng nghanol pethau yng Ngogledd Iwerddon lle bu’n gyfarwyddwr gwleidyddol Swyddfa Gogledd Iwerddon a chyd-ysgrifennydd y Gynhadledd Ryng-Llywodraethol Iwerddon a San Steffan. Un arall yw Ray Kendall, a fu gynt yn uchel swyddog yn heddlu Llundain ac yna’n Ysgrifennydd Cyffredinol Interpol. Daw’r aelodau eraill o Dde’r Affrig, Sri Lanka, a’r India. Dydyn nhw ddim yn swnio fel pobl fyddai’n ‘rhoi mewn’ i derfysgwyr.
Heno mae’r lehendakari, llywydd cymuned Gwlad y Basg, yn cwrdd â’r prif weinidog: mae cryn ddyfalu y byddan nhw’n trafod y posibilrwydd o symud carcharorion ETA i garchardai yn eu mamwlad.