Hanner miliwn yn Madrid, 400,000 yn Barcelona. Miloedd mwy yn ninasoedd mawrion ledled Sbaen. 40,000 yn y glaw yn Gijón, Asturias, (poblogaeth 2011: 277,000). Mae’r gwrthdystiadau heddiw wedi denu llawer mwy o gyfranogwyr nag oeddwn i wedi ei ddisgwyl. Tan neithiwr, o leiaf, mae oedd cyfeillion yn y bar yn sôn am godi’n fore i fynd yno.
Deddf newydd sydd yn newid (darllener: gwaethygu) hawliau gweithwyr ynglŷn â diswyddiadau. Yr un cri ag erioed gan y cyflogwyr ‘rhaid inni gael yr hawl i ddileu ac i greu swyddi fel y dewiswn ni’. Hyd yn hyn dim ond y dileu a welsom. Mae’n werth cofio bod nifer y diwaith yma dros 5 miliwn yn barod, ac yn cynnwys hanner y boblogaeth 16-24 oed. O dan y drefn newydd bydd cwmniau sydd ‘mewn trafferthion’ (dim eglurhad eto o beth mae hynny’n feddwl) yn cael anwybyddu cytundebau a wnaed ar y cŷd rhyngddyn nhw a’u gweithwyr, ym maes amodau gwaith, lleoliad y gwaith hwnnw, a chyflogau. Ac os byddan nhw’n rhoi pobl ar y clwt, fydd e’n costio llai iddyn nhw ac yn cymryd llai o amser trafod.
Dywediad Sbaeneg am ‘ar y clwt’ yw a la calle (i’r stryd), ac yn Gijón heddiw fe addawodd un o arweinwyr yr undebau llafur taw yn y stryd y byddai’n rhaid ymladd i gael gwared ar y ddeddf. Fe ddaeth y ddau fudiad undebol (yn fras, sosialwyr a chomiwnyddion) at ei gilydd i drefnu gwrthdystiadau heddiw, ond bydd eisiau mwy na hynny os yw’r ymgyrch i fod yn llwyddiannus.
Enghraifft o’r drefn newydd: y Liceu, tŷ opera enwog Barselona. Yn ystod y chwe mis nesaf, fe fydd y rhan fwyaf llethol o’r gweithwyr yn cael deufis o ‘wyliau’ di-dâl. Bydd y theatr ar gau, gan golli nifer o gynhyrchiadau opera a bale.
Ymateb y prif weinidog i’r gwrthdystwyr: galw am ‘gyd-aberthu’. Dwi ddim yn ei weld e na’i debyg yn aberthu ryw lawer.