Nid pawb sy’n cael aros mewn palas y noson cyn iddo fynd i flaen ei well, ond dyna lle bydd dug Palma, Iñaki Urdangarin, yn aros heno. Bydd ef a’i wraig, y dywysoges Cristina, merch brenin Sbaen yn hedfan o Madrid heno i Mallorca ac yn treulio’r nos mewn un o’r palasau llai sydd gan deulu brenhinol Sbaen yno. Bore ‘fory am 0900 fe fydd yn cwrdd â’r barnwr sydd yng ngofal yr achos o lygredd yn ei erbyn. Fydd ei wraig ddim yn mynd gyda fe, er ei bod yn pwysleisio gymaint y mae’n ei gefnogi. Erthygl da iawn yma gan Giles Tremlett, y gorau o’r gohebwyr o’r DU yn Sbaen.
Lladron wedi dwyn gwerth miliynau o ewros o emwaith ac aur o stafell gref SEUR, cwmni sy’n symud a dosbarthu eiddo, yn Madrid. Gyrrwyd fan yn galed yn erbyn yr adeilad nes iddo dorri drwodd.
Dyn o ddwyrain Asturias wedi gosod magl i ddala ceirw heb y gwaith o fynd i’w hela. Ond yr hyn a ddaliodd oedd dyn arall: gwyddonydd oedd yn gweithio ar gynllun yn yr ardal i restru planhigion. Cafodd e ddirwy o €3000. Ni chafodd y naturiaethwr niwed mawr.
Mae’r PSOE, y blaid sosialaidd, wedi penderfynu mynd â’r ddeddf newydd ar hawliau gweithwyr i’r llys cyfansoddiadol. Ei gobaith yw cadw peth o’r diogelwch swyddi sydd gan weithwyr yn awr.
Pob hwyl i dîm Cymru yfory!