Mae’r tebygrwydd o gael streic gyffredinol yn Sbaen yn erbyn y newidiadau yn hawliau gweithwyr yn cryfhau. Bydd y ddau fudiad undebol mawr, UGT (sosialaidd) a CCOO (comiwnyddol), yn cwrdd yr wythnos nesaf i benderfynu a fyddan nhw’n ymuno yn (cymryd drosodd) y streic sydd eisoes wedi ei galw gan fudiadau undebau cenedlaetholwyr Gwlad y Basg, Navarra, a Galicia.
Mae rhai yn ehangu byrdwn eu cwyn i gynnwys yr hyn sy’n digwydd ar raddfa Ewrop, y penwythnos yma ym Mrwsel. Heddiw yn Donostia/San Sebastian, fe orymdeithiodd cannoedd yn erbyn y cyni cyffredinol y mae llywodraethau Ewrop yn ei gynnig i’w dinasyddion. Roedden nhw’n galw am bolisi hollol wahanol fyddai’n gwario arian er mwyn fdatblygu diwydiannau a chreu swyddi, yn enwedig i bobl ifainc.
Yn Asturias, yn Madrid ac (unwaith eto) yn Valencia, mae’r myfyrwyr hwythau wedi bod ar y stryd yn gwrthdystio yn erbyn y newidadau fydd yn effeithio arnyn nhw gyda’r toriadau mewn gwario cyhoeddus gan bob un o’r cymunedau awtonomaidd. Ac mae ‘na ddisgwyl y bydd protestiadau hefyd yr 8fed o Fawrth (Dydd Rhyngwladol y Menywod) ac ar y dydd Sul canlynol.
Os daw streic gyffredinol, mae’n debyg y bydd hi ar ddydd Iau, 29ain o Fawrth. Ond a fydd yn streic ddiwrnod yn unig, neu a fydd yn rhedeg ymlaen i Semana Santa – yr wythnos santaidd cyn y Pasg – sdim modd gwybod eto.