Llwyddiant! Codi’n ddigon cynnar i gyrraedd y farchnad yn Posada cyn neb arall (ond y stondinwyr), lan i’r llynnoedd heb drafferth o gwbl (dim eira ar yr heol, dim ceir chwaith) a cherdded peth o daith Vega de Ario. Mae’r daith hon yn dair awr bob ffordd, ond oherwydd yr eira a rhagolygon tywydd gwael beth wnaethom ni oedd cerdded am awr a hanner, bwyta bwyd a dod yn ôl.
Fel hyn roedd llyn Ercina yn ymddangos wrth inni gerdded tua’r de-ddwyrain. Roedd digon o eira ar ôl (wel dim ond dechrau mis Mawrth yw hi!) ond dim byd dwfn iawn. Roedd rhwyun hyd yn oed wedi pasio mewn sgidiau eira, y pethau ‘na sy’n edrych fel racedi tenis.
Aethom ni hyd at y Majada de las Bobias, casgliad o gabanau fydd yn cael eu defnyddio gan fugeiliaid a’u hanifeiliaid – yn yr hen ddyddiau roedden nhw’n rhywbeth tebyg i’r hafotai Cymreig, gyda theuluoedd cyfan yn treulio misoedd yr haf a’r da byw yn pori glaswellt a pherlysiau’r mynydd.
Ychydig iawn o flodau (mwy am rheiny yfory) – bydd rhaid inni fynd yn ôl i ddilyn y llwybr hwn eto ym mis Mai.


