Esgus arall i atgoffa pobl am un o’m hoff deithiau cerdded! Pan oeddem ni yn Santander y diwrnod o’r blaen, a minnau’n chwilota mewn siop lyfrau, des i ar draws cyfieithiad i’r Sbaeneg o lyfr a gyhoeddwyd yn Saesneg ym 1885 – Ucheldireodd Cantabria, gan Mars Ross ac H. Stonehewer-Cooper. Dau fonheddwr â digon a amser ac arian a dim angen gwaith, roedd y ddau wedi ysgrifennu llyfrau taith o’r blaen: Mars Ross ar fynyddoedd yr Himalaya a’r llall ar ynysoedd Fiji. A’r rheswm yr oedden nhw wedi dwli ar y Picos de Europa? Mae i’w gael yn is-deitl y llyfr: Tri Diwrnod o Loegr. Hynny yw, dim amser o gwbl.
Roedd y ddau weithiau yn aros mewn gwestyau moethus, ac yn teithio mewn coets, ond y rhan fwyaf o amser roedden nhw’n cerdded neu’n rhentu ceffylau. A dyna sut y daethon nhw yn ‘estroniaid cyntaf erioed i ymweld â Bulnes’, chwedl pobl y pentref a roes iddyn nhw le i orwedd y noson honno. ‘Roeddem ni wedi dod â’n bwyd gyda ni.’
Ac maen nhw’n conan am y llety hefyd: ‘brefu di-baid defaid Bulnes – sdim rhyfedd bod y bleiddiaid yn dod i lawr gyda’r nos, dim ond i geisio’u tawelu nhw’.
Doedd mŵg y tân – yng nghanol y llawr a heb simne – ddim yn plesio chwaith, ac yn eu gyrru nhw mâs i’r awyr agored i glirio’r llygaid. Sached o wellt oedd y gwely, y teulu a’r dieithriaid yn estyn eu matresi cyntefig ar y fainc oedd yn amgylchynnu unig stafell y tŷ.
Erbyn hyn mae nifer o dai Bulnes wedi cael ail a hyd yn oed trydydd llawr, simneiau a phob dim, ond mae llawer llai o drigolion. Mae dal yn werth dilyn y llwybr lan i ymweld a’r pentref, hyd yn oed os yw pris y trên tanddaear wedi codi’n afresymol o uchel.
