Eleni rydym ni wedi plannu mwy o wahanol fathau o dato nag erioed. Ryn ni’n dal i geisio osgoi’r blight – clwy’r tatws yw’r unig enw Cymraeg a wn i ond gan fod tato’n dioddef o nifer o glwyfau, well gyda fi aros gyda blight. Mae’r ffwng sy’n achosi’r clwy eisiau gwres a dŵr: nifer o ddiwrnodau’n olynol pryd mae’r tymheredd dros nos yn aros yn uchel (yn bendant yn uwch na 10C) a’r lleithder yn uchel am y rhan fwyaf o’r 24ain awr. Yma yn nwyrain Asturias, mis Mehefin yw amser y perygl mwyaf.
Dechrau o’r blaen: Sarpo Mira, taten brif gnwd yn arbennig i wrthsefyll y blight, sy’n cael ei datblygu yn Abergwyngregyn ger Bangor. Plannwyd ddiwedd mis Chwefror ac yn edrych yn ddigon hapus.
Tu ôl iddi, tair rhes ffaeledig, a blannwyd ganol mis Mawrth. Winston, Highland Burgundy a Shetland Black, y ddwy olaf yn ‘dato dreftadaeth’. Rhy dwym iddyn nhw, dybiwn i. Ond y Winston? Y pwynt o blannu hon, taten gynnar, oedd ei bod hi’n tyfu’n glou iawn ac y byddai’n barod cyn mis Mehefin. Doedd hi ddim.
Ac yng nghefn yr ail wely, rhes o Fourtyfold, taten dreftadaeth eto, ond mae hon wedi goroesi’n iawn.
Ondar ochr arall y tŷ, mae rhai o’r tato cynnar sydd wedi llwyddo yn sychu yn yr haul:
Rwy’n gwybod bod rhai pobl o’r farn na ddylid sychu tato cynnar, dim ond eu bwyta nhw o’r pridd. Ond mae eisiau’r lle i bethau eraill, felly bwyta a sychu fydd hi.

