Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 6, 2012

Rhyfel y Glowyr

Mae ymgyrch y glowyr yn dechrau niweidio pobl. Neithiwr yn un o gymoedd glofaol Asturias, bu brwydr hir rhwng yr heddlu ‘anti-disturbios’ a’r glowyr ar yr A-66, y draffordd sy’n croesi’r mynyddoedd rhwng Asturias a chanol Sbaen, yn ymyl tref Pola de Lena. Roedd y glowyr, fel arfer, yn tanio voladores, rocedi sydd yn rhan arferol o fiestas yr haf.

Gadawyd gwraig a merch ifanc â mân anafiadau ar ôl brwydr a aeth ymlaen tan oriau mân y bore. A heddiw mae’r ddwy ochr yn gwynebu ei gilydd eto wrth y fynedfa i Bwll Santiago. A dyw agwedd y llywodraeth tuag at y toriadau ddim wedi newid o gwbl.

Nid brwydr mwyach, felly, ond rhyfel. Mewn rhyfel fe fydd pobl ar yr ochrau yn cael eu hanafu – neu’u lladd. Fe allwn i siarad am foeseg y peth: ydy e’n iawn i beryglu pobl eraill er mwyn ennill dy ryfel di? Fe allwn i siarad am drosedd a charchar. Neu ofyn a oes pwynt gwneud unrhyw beth i wrthwynebu’r llywodraeth achos mynd yn eu blaen y byddan nhw.

Ond dwi ddim yn mynd i wneud hynny heb atgoffa’r byd bod y polisi hwn yn mynd i ladd trefi, lladd cymoedd cyfan, diboblogi ardaloedd a gyrru mwy o deuluoedd i fyw mewn tlodi.

 

About these ads

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: