Dwy stori fach yn ymwneud â’r heddlu: i ddechrau, ychydig mwy o fanylion am y frwydr yn Pola de Lena ddwy noswaith yn ôl rhwng y glowyr a’r heddlu. Mae wedi dod yn amlwg bod y ferch fach 5 oed a gafodd ei hanafu yn eistedd yn stafell flaen y tŷ pan fwrodd bwled rwber yn erbyn y ffenestr. Darnau o wydr y ffenestr achosodd yr anafiadau a ddioddefodd hi. Drwy’r dydd ddoe fe aeth nifer fawr o drigolion y dref i swyddfa’r heddlu i wneud cwynion am ddifrod a wnaed i’w tai gan fwledi rwber yr heddlu. Mae pethau wedi tawelu heddiw, ond mae gwir ofn yn awr beth fydd yn digwydd pan fydd gorymdaith y glowyr yn cyrraedd Madrid.
Ac yn ail, yn ôl i’r lladrad y llynedd yn eglwys gadeiriol Santiago de Compostela, pan ddiflannodd llawysgrif hynafol, y Codex Calixtino. Mae trydanwr oedd ar staff yr eglwys am dros 20 mlynedd wedi ei gael yn euog o’i ddwyn – ynghyd â thrysorau eraill gwerth €1.2 miliwn i gyd. Roedd e wedi llwyddo i werthu llawer ohonyn nhw, ac roedd yr arian – mewn papurau parod – wedi ei guddio o gwmpas ei dŷ.
Yn ôl pennaeth adran yr heddlu a’i ddaliodd ‘fel pob gallego roedd e’n cadw’i arian yn y wal.’ Ond yn sicr ychydig iawn o drigolion Galicia sydd wedi llwyddo i gynilo gymaint â’r trydanwr.