Mae’r glowyr a’u cefnogwyr tu fâs i senedd Sbaen. Tu fewn, mae’r prif weinidog Mariano Rajoy wrthi’n cyhoeddi cyni a mwy o gyni iddyn nhw a phawb arall sy’n byw yma. Codi’r dreth ar werth i 21%: iawn, roedd yn is na mewn gwledydd eraill. Cwtogi nifer cynghorwyr trefol: ychydig o bobl fyddai’n gryf yn erbyn hwn, ond nid dyna’r broblem. Os cwtogi ym myd llywodraeth leol, uno awdurdodau sydd ei angen – ond fe fyddai hynny yn cymryd amser. Mwy o drethi ‘tuag at yr amgylchfyd’ (ar drydan, dŵr ayyb): eto, pwy sy’n mynd i wrthwynebu’r syniad?
Torri nôl y dôl ar ôl 6 mis o ddiweithdra. Ydy e eisiau gweld pawb o’r genhedlaeth ifanc yn ymfudo i rannau eraill o’r byd? Does dim gwaith yma, a dyw torri ddim yn mynd i greu gwaith. Na, bydd yn debycach o rwygo teuluoedd a diboblogi ardaloedd cyfan.
Ond dyna beth mae Ewrop wedi dweud wrtho fe am ei wneud, er mwyn derbyn y miliynau mawr sydd ei angen ar y banciau. Fel y dwedais i bythefnos yn ôl, mae dwylo’r Almaen yn dal yn dynn ar goffrau’r UE. Mae Sbaen yn gorfod trosglwyddo rhan helaeth o bwerau Banc Sbaen i Fanc Canolog Ewrop. Meddylia’r helynt fyddai’n codi petai llywodraeth y DU yn gwneud hynny!
Ac yn ddwfn yn un o is-gymalau’r gytundeb, yn ôl El País a’r Wall Street Journal pobl Sbaen fydd yn talu’r gost. Mae’r gytundeb yn egluro mai buddsoddwyr ‘iau’ fydd yn colli mâs. Hynny yw, pobl fel ti a fi, sydd wedi prynu cyfranddaliadau ‘blaenoriaeth’ yn eu banc – yn aml ar gais y banc pan oedd y rheiny’n ceisio denu mwy o gyfalaf. Yn awr mae blaenoriaeth wedi dod i feddwl ‘cyntaf yn y ciw i golli’. ‘Rhannu’r baich’ maen nhw’n ei alw, a rhaid i bob banc wneud hynny cyn bod yr un céntimo goch yn llifo i fewn. Does ‘na ddim sôn, eto yn ôl y bobl sydd wedi darllen y gytundeb, y bydd y cronfeydd buddsoddi amlwladol na’r banciau estron yn gorfod codi’r mymryn lleiaf o’r baich.
Fydd ‘na neb ar ôl sydd heb ei gythruddo gan weithredoedd Rajoy.