Os cei dy gyfle, cer i weld y ffilm hon. Os oes rhaid gadael rhywbeth arall hir-drefnedig, neu deithio milltiroedd, cer i weld y ffilm hon.
Nostalgia de la Luz ‘Hiraeth am y Goleuni’. Ffilm ddogfen gan gyfarwyddwr alltud o Chile, Patricio Guzmán. Ffilm a gymerodd 5 mlynedd i’w gwneud. Mae ei hadeiladwaith, a’i gwehyddiad, yn gywrain. Mae’r cymeriadau yn bobl cryf sy’n dilyn bob un ei drywydd ei hun heb wyro. Ac mae’r athroniaeth sy’n sylfaen i’r cwbl yn llifo i ymennydd y gwyliwr yn rhwydd.
Chwilio yn y llwch sy’n dod â thair elfen y ffilm at ei gilydd. Yng nghanol anialwch yr Atacama, mae seryddwyr yn defnyddio rhai o delesgopau mwya’r byd i geisio canfod olion y Big Bang yn llwch y sêr; mae archaeolegwyr yn darganfod celfyddyd a wnaed gan y bobl oedd yn byw yno 10,000 o flynyddoedd yn ôl; ac mae menywod, erbyn hyn yn eu saith-degau, yn chwilio am ddarnau bach o gyrff eu gwŷr a’u meibion gafodd eu lladd yno o dan regime Pinochet.
O’r fan hyn mae Guzman yn mynd â ni gydag e i ystyried natur amser a chof. Fel y mae pob eiliad yn dilyn y llall, fel nad oes ‘presennol’ yn bodoli o gwbl bron, i’r seryddwr, fel y mae presennol diddiwedd yn dal y wraig yn yr anialwch, a’r archaeolegwr yn adnabod olion yr hen bobl yn ein bywyd ni. (A chyffyrddiadau bach o’n bywyd ninnau yn eu celf hwy.)
Dyw hi ddim yn ffilm emosiynol ond mae’n ffilm sy’n codi emosiwn. Mae wedi ei lleoli mewn ardal ddi-drugaredd o galed ond mae wedi ei saethu’n brydferth. Mae’n ymdrin â themâu mawr ond drwy bobl gyffredin anghyffredin.
Cer i’w gweld hi. Rhagolwg yma
Hon oedd “ffilm yr wythnos” ar bodlediad Kermode & Mayo bwyddiwrnod. Swnio’n wych; ddim yn debyg iawn i ddod i Aberteifi, yn anffodus, oni bai bod y Cymdeithas Ffilmiau yn ei dewis.
Gan: Nic Dafis (@nicdafis) ar Gorffennaf 15, 2012
am 2:01 pm
Diolch Nic – na gyd weda’i yw os oes gyda ti unrhyw ddylanwad ar ddewisiadau’r Gymdeithas Ffilmiau – gofynna am hon!
Gan: cathasturias ar Gorffennaf 15, 2012
am 2:07 pm