Ar ôl 50 diwrnod – saith wythnos – mae’r glowyr oedd wedi eu cloi eu hunain dan ddaear mewn dau o byllau Asturias wedi dod i’r wyneb. Ond nid diwedd yr ymgyrch yw hwn. Fe ddaethon nhw lan yn ôl penderfyniad eu hundeb, ac mae eraill eisoes wedi mynd i lawr i gymryd eu lle. Y broblem yw bod dwy undeb, neu yn hytrach dau fudiad undebol, yn Sbaen a’r glowyr fel pawb arall wedi eu rhannu. Dyw’r undeb arall, yr un fel mae’n digwydd sydd fwy i’r chwith, ddim yn cefnogi mwy o brotestiadau dan ddaear ac yn eu gweld yn wastraff pobl ac o bosib yn amharu ar iechyd y rhai sy’n cymryd rhan.
Ond mae’n wir bod y protestiadau hyn wedi rhoi canolbwynt i gefnogwyr: yn ystod yr wythnos ddiwethaf mae dau o bêl-droedwyr Sbaen, Santi Cazorla a David Villa, wedi ymuno â’r glowyr (ar yr wyneb!) i ddangos eu cefnogaeth. Bachan o Asturias yw Villa, el Guaje, ac o deulu o lowyr hefyd.
A fydd y glowyr yn llwyddo i gadw’u pyllau ar agor? Dim syniad, ond maen nhw yn dod yn sumbol o anfodlonrwydd llawer mwy o Sbaenwyr gyda thoriadau Rajoy. A heddiw daeth tri phigyn bach arall fydd yn ychwanegu at y gwrthwynebiad:
Mae cynlluniau ar y gweill i gael gwared o 15,000 o filwyr; ymfudodd 40,000 o bobl i wledydd eraill yn ystod tri mis gyntaf 2012; ac mae cyn-gadeirydd cymdeithas cyflogwyr Sbaen wedi ei gyhuddo o guddio €5m mewn cyfrif cyfrinachol yn y Swistir.