Diflannodd mynydd tân tanfor El Hierro o’r tudalen blaen, ac yn wir o’r newyddion yn gyfangwbl ar ôl ei bedwar mis o enwogrwydd y llynedd. Ond yn awr mae arbenigwyr Sefydliad y Llosgfynyddoedd yn Tenerife yn yr Ynysoedd Dedwydd yn astudio symudiadau newydd yno.
Yn ôl Carmen Lopez, arweinydd y tîm, mae ynys El Hierro wedi tyfu 10cm yn uwch na’r hyn yr oedd hi flwyddyn yn ôl ‘mae’n ynys ifanc’, meddai. Fe ddechreuodd y daeargrynfeydd eto ym mis Mehefin, ac o ddarllen adroddiad trigolion yr ynys mae’n amlwg eu bod nhw wedi cael cymaint â 15 mewn diwrnod. Mae’r rhan fwyaf yn eithaf gwan ac yn ddwfn o dan y môr, a dydyn nhw ddim yn berygl i’r bobl sy’n byw yno.
Ond mewn gwirionedd does neb yn gwybod beth fydd yn digwydd nesaf. Mae Carmen Lopez yn gweld y sefyllfa’n debyg iawn i’r hyn yr oedd ar ddechrau cyfnod echdoriadau 2011. Y tro yma, mae pysgotwyr pentref Restinga, agosaf at y safle, wedi cael addewid o iawndal os byddan nhw’n colli mâs eto. (Y llynedd fe laddwyd miloedd o bysgod a bu’n rhaid gwahardd pysgota am dipyn.)
A bydd gweddill trigolion El Hierro, sy’n dibynnu ar dwristiaeth i dalu’r biliau, yn gobeithio gweld ymwelwyr newydd, y rhai sydd â’u bryd ar weld un o ryfeddodau natur, yn ogystal â’r traeth.