Hyd yn hyn, nid oedd tywysog Asturias, etifedd brenhiniaeth Sbaen, na’i wraig Letizia, cyn-gyflwynydd newyddion sydd hefyd yn enedigol o Asturias, wedi cael eu cynnwys yn y we o broblemau sydd gan y teulu brenhinol. (Y brenin: hela a saethu eliffantod, ac wedyn yr holl hanesion am ei ‘gyfeilles arbennig’; ei fab-yng-nghyfraith: nifer o achosion yn ei erbyn am droseddau ariannol a thwyll.)
Ond heddiw fe ymddangosodd mamgu y dywysoges Letizia o flaen y barnwr yn Cangas de Onis, tref sy’n adnabyddus fel lle gwyliau ar lethrau is y Picos de Europa. Mae hi, ei mab a’i merch (tad a modryb y dywysoges) wedi eu cyhuddo o ddirgelu eiddo a chyfoeth er mwyn peidio talu’r hyn oedd yn ddyledus. Cododd y dyled o ddau fusnes oedd yn cael eu rhedeg gan y ferch/modryb, a ddewisodd fynd yn fethdalwraig a dweud nad oedd yn gallu talu. Y cyhuddiad heddiw yw bod y tri aelod o’r teulu wedi newid yr enwau ar ddogfen weithred cartref y famgu a’r teulu, fel na fyddai enw’r ferch yn rhan ohoni.
Mae’r famgu yn ddigon adnabyddus ei hunan yn Asturias, fel cyflwynydd radio a ‘sleb’ lleol: mae ei chartref o fewn ffiniau Ribadesella, a’r dref yn falch iawn ohoni hi a’i wyres. Ond heddiw roedd yn rhaid i’r heddlu agor ffordd iddi i’r llys drwy’r bobl oedd yn gweiddi yn erbyn y llywodraeth, y teulu brenhinol a’r toriadau.