Mae’n cyfeillion wedi eu cynhyrfu fwyfwy. Neithiwr ar deras y bar wrth y traeth, doedd neb yn sôn am gynlluniau ar gyfer yr haf, neb yn adrodd hanesion digri.
Mae llawer ohonyn nhw’n gweithio yn y sector gyhoeddus, yn feddygon, yn athrawon, yn weithwyr swyddfa. Nhw yw’r genhedlaeth gyntaf yn eu teuluoedd I symud o’r pwll neu’r fferm. Ond gyda’r toriadau, hyd yn oed os byddan nhw’n cadw eu swyddi, bydd yn rhan fwyaf yn gorfod gweithio mwy o oriau, a derbyn llai o gyflog – neu fynd I weithio mewn tref sy’n awr yn fwy o daith iddyn nhw.
Mae eu plant yn tynnu at oedran gadael ysgol, rhai eisoes wedi dechrau yn y coleg. Ond beth allen nhw ddweud wrthyn nhw? Bod gwaith caled yn dod â swyddi da? Bod eu byd nhw’n llawn cyfle? Smo fi’n credu.
Yn y diwedd, gadewon ni’r problemau mawr a mynd yn ôl I siarad am y rhai bach: y lleuarth, y tywydd. Ein llwyddiant ni eleni:
y cwrens duon! 5kg ohonyn nhw, lle nad oedd ond llai nag 1kg y llynedd. Mae’r llwyni wedi aeddfedu, ac yn amlwg doedd dim ots ganddyn nhw’r diffyg haul. Sy’n beth od, achos roeddwn i’n meddwl bod angen tipyn o wres yr haul arnyn nhw. Nawr i ddechrau ar eu prosesu nhw.
