Alla’i ddim osgoi e heddiw. Mae beth sy’n digwydd yn y farchnad – marchnadoedd a dweud y gwir, un arian ac un cyfranddaliadau – yn Sbaen yn hollol afresymol. Y bore ‘ma eto fe gododd y pris y mae llywodraeth Sbaen yn gorfod talu i fenthyg arian tramor i record newydd. Ac fe gollodd yr Ibex (FTSE Sbaen) 1% yn fwy o’i werth.
Pam felly mae buddsoddwyr mawr y byd wedi troi eu cefn ar y penrhyn Iberaidd? Prif broblem Sbaen yw diweithdra – ond mae diwydiannau ac amaeth yn dal i wneud yn dda. Mae pethau yn cael eu cynhyrchu a’u gwerthu dramor. Dyw dyled gwladwriaethol Sbaen ddim yn uchel o’i gymharu a gwledydd eraill o fewn yr € sydd wedi mynd yn erbyn y creigiau: ond fe fydd e, os wneith pethau barhau fel hyn, achos mae’r llog yn mynd yn fwy bob tro. Mae Ewrop wedi cytuno i roi benthyg biliynau lawer er mwyn achub y banciau. Ond dyw hyn i gyd ddim yn ddigon i’r buddsoddwyr.
Efallai bod y buddsoddwyr mawr yn rhannu fy marn i a llawer o’m cyfeillion yn Asturias. Does dim pwynt achub y banciau. Heb arian Ewrop, bydd rhai yn sicr o fynd i’r wal, ond fe allai’r gweddill fanteisio ar eu cyfle. Diben banciau o dan y drefn sydd ohoni yw gwneud pethau’n haws i fusnesau, cadw’r arian i symud o gwmpas y rhod: nid casglu tomenni o arian iddyn nhw, eu swyddogion uchaf a’u cyfranddalwyr. Os wyt ti am weld ddiwedd sydyn ar y drefn gyfalafol byddai cwymp y banciau yn rhywbeth i’w groesawu. Ond os wyt ti am weld y peth yn cael ei drawsnewid, ac yn dal i weithio, busnesau (cwmniau neu gymdeithasau cyweithredol) sy’n cynhyrchu neu’n prosesu pethau fydd angen, nid banciau sydd wedi eu diogelu fel rhyw anifail prin.