Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Gorffennaf 25, 2012

Perygl! Poblyddwr

Wel efallai dylwn i fod wedi ei ragweld. Wyth mis ar ôl i lywodraeth PP Mariano Rajoy gael ei hethol, dim ond y chwith eithaf, IU, oedd yn galw am ddiswyddo’r cwbl oherwydd cwymp estynedig a thragwyddol economi Sbaen. Ond heddiw ymunoedd llais arall yn y cytgan: ie, Francisco Alvarez Cascos, cyn-lywydd cymunedol Asturias cyn iddo alw a cholli etholiadau eleni.

Poblyddwr yw Cascos o flaen popeth arall, ond yn syth wedyn, boi o’r adain dde. Ei gŵyn heddiw oedd bod Mariano Rajoy yn mynd o gwmpas prif dinasoedd Ewrop fel cardotwr yn chwilio am geiniogau gan y cyfoethog. Sbaen oedd ei faes e heddiw, nid Asturias. Ond yr un oedd ei neges: rhoi (rhowch enw fan hyn) o flaen popeth arall. Angen newid y drefn fel na fyddai arian yn cael llifo o un wlad i’r llall a Sbaen yn dioddef. Gadael yr € cyn bod Brwsel ‘yn ein lluchio ni mâs’.

Ie, y ddau beth. Efallai iddo beidio ag ystyried beth fyddai’n digwydd petai’r peseta yn ei ôl: fyddai arian Sbaen ddim yn llifo i unlle achos fyddai neb yn mo’yn e. A’r trwbl yw, wrth gwrs, ei fod fel poblyddwr da yn dweud yn union beth mae pobl yn hoffi clywed: eu bai nhw yw e, ond inni gael gwared â nhw byddwn ni’n iawn. Nid dyna’r math o genedlaetholdeb na gwlatgarwch sy’n apelio ataf i. Ond mae’n llawer haws na cheisio adeiladu ymateb ymarferol.

 

 

 

 

About these ads

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: