Mae’r mafon wedi dechrau dod o’r diwedd! Ganol mis Mehefin y byddaf yn eu casglu nhw fel arfer, ond gyda tywydd anwadal eleni roeddwn i’n ofni na welwn i mohonyn nhw o gwbl. Ond mae wythnos o haul (a gwres – 25-28C bob dydd) wedi gwneud y byd o wahaniaeth iddyn nhw. Mae’r planhigion 50% yn dalach a digon o ffrwyth bach coch i’r ddau ohonom ni. Eisoes mae blodau bychan yn ymddangos ar eu topiau, felly y gobaith yw y daw mwy cyn diwedd Awst.
Llysieuyn sydd wastod yn ddibynadwy yw’r ffa bach Ffrengig, ac mae nhw wedi dod i’r adwy eto. Fe’u hawyd 8 wythnos yn ol yn union, ac eisoes rydym ni wedi cael digon i ddau ginio. Ar wahan i hynny, mae gyda ni’r cavolo nero, y fresychen dywyll o’r Eidal, betys arian ifanc suddlon, a moron. Heb anghofio’r tato, wynwns a garlleg sydd wedi eu cynaeafu’n barod. Ar eu ffordd y mae’r tomatos: yn dechrau newid lliw y rhai bach cherry, y pupurod: sawl ffrwyth wedi ffurfio, a’r aubergines (dal ddim wedi cael gair Cymraeg).
Diwrnodiau fel hyn sy’n wneud yr holl beth yn werth chweil. Amser nawr i fynd am dro bach i lawr yr afon i’r traeth .
Cynigion Geiriadur yr Academi:
wylys (wylysiau), aubergine (aubergines), planhigyn wy (planhigion wy)
Aubergine i fi
Gan: Neil Shadrach ar Gorffennaf 26, 2012
am 4:36 pm
Cytuno: dyw’r rhai sydd gyda ni heddiw ddim byd tebyg i ŵy. Yn Sbaeneg: berenjena
Gan: cathasturias ar Gorffennaf 26, 2012
am 7:23 pm