Mae pob un sy’n dysgu iaith arall yn dod ar eu traws nhw’n fuan: y geiriau hynny sy’n edrych yn gyfarwydd iawn ond sy’n meddwl rhywbeth hollol wahanol. Y ffrinidau ffug.
Yr un mwyaf amlwg yn Sbaeneg o’i gymharu a’r Gymraeg yw muy . Mae’n swnio’n union fel mwy, ond dyw e ddim yn meddwl cweit yr un peth. Yn lle mynegi’r ffaith bod rhywbeth wedi tyfu/ymledu/dwysau, mae muy yn cyfateb a iawn - yn yr ystyr ‘da iawn’ e.e. Rhwydd iawn (muy facil) cymysgu’r ddau.
Mae llawer mwy o ffrindiau ffug rhwng y Sbaeneg a’r Saesneg, yn bennaf oherwydd y ffordd y mae geiriau ddaeth o’r Lladin wedi newid eu hystyr dros y canrifoedd. Dyma rai o’m ffefrynnau:
intoxicado – na, nid wedi cael gormod i yfed, ond wedi cael ei wenwyno mae’r truan
damnificados – (bob amser yn y lluosog) nid y rhai sydd ar eu ffordd i uffern ond y rhai sydd wedi dioddef e.e. rhyfel neu ddaeargryn
constipado – ffefryn y plant. Nid yn rhwym ond dan annwyd
competencia – o, mae hwn yn anodd. Weithiau mae’n golygu cymhwysedd, ond yn amlach na heb, cystadleuaeth
carpeta – nid ar y llawr y bydd hwn, ond yn dy gyfrifiadur (ffolder) neu o dan dy fraich i ddal papurau.
Unrhyw ffefrynnau eraill gan rywun?
parar – nid ‘para’ ond i’r gwrthwyneb ‘stopo’
ir al campo – mynd i’r wlad ac nid i wersylla
embarazada – nid bod cywilydd ar fenyw ond ei bod hi’n feichiog
en absoluto – nid ‘yn hollol’ ond i’r gwrthwyneb ‘ddim o gwbwl’
estrecho – mae hyn yn swno ifi fel dylsa fe feddwl ‘eang, llac’ ond sydd yn golygu ‘cul, tynn’
Nid ffrindiau ffug mo’r ddau bar o eiriau ‘pollo/polla’ a ‘cojines/cojones’ ond ma nhw’n achosi eitha rhialtwch os ma dyn yn defnyddio’r un anghywir.
Gan: kzjones@btinternet.com ar Gorffennaf 30, 2012
am 3:00 am
Etiqueta’n ffefryn hefyd – dim byd i wneud ag ymddwyn yn ffurfiol gwrtais, ond y pishin papur ar dy botel win sy’n rhoi enw’r grawnwin/ardal/ystad.
Gan: cathasturias ar Gorffennaf 31, 2012
am 1:07 pm
‘Tener argumento’ yn un arall.
‘Argument’ yn Saesneg ifi yw ‘ffrae’ neu ‘gweryl’ ond ‘dadlau, trin a thrafod, dal pen rheswm’ yw ‘tener argumento’ yn Sbaeneg ontefe.
Gan: kzjones@btinternet.com ar Awst 1, 2012
am 3:31 pm
diolch kz. A wnewn ni ddim hyd yn oed meddwl am y ffrindau ffug rhwng Sbaeneg Sbaen a Sbaeneg yr Amerig!
Gan: cathasturias ar Awst 1, 2012
am 5:31 pm