Bach yn hwyr y daw’r cofnod heno! Wedi bod drwy’r dydd gyda’r cyfeillion ar lan afon Sella, yn gwylio ras y ceufadau, yn nofio ac yn bwyta ac yn yfed seidr.
Tamaid i aros pryd yw hwn: roedd 900 yn cystadlu yn y marathon ceufadau , wedi dod yma o 14 o wledydd i rasio 20 km o Arriondas i Ribadesella. Ond ychydig iawn o ddŵr oedd yn eu croesawu nhw, dyna pam maen nhw i gyd yn dilyn yr un trywydd wrth i’r afon droelli. Y dywediad fan hyn oedd taw un o doriadau diweddaraf llywodraeth Rajoy oedd y prinder dŵr. Roedd pob un yn cael cymeradwyaeth gan y dorf ar y glannau.
Ond toriad go iawn oedd yn golygu nad oedd y cystadleuwyr fel arfer yn derbyn diod o ddŵr (potel!) wrth gyrraedd pen y ras. Wrth iddyn nhw ddod yn ol lan yr afon i gael eu cinio, yr arfer yw ein bod ni’n arllwys seidr i’r rhai sydd eisiau fe. Ac eleni roedd yna fwy nag arfer yn aros i’w gymryd e.
Ac roedd sawl un wedi adnabod y Ddraig Goch fel baner Cymru – gan gynnwys rhai o Dde’r Affrig. Diwrnod o chwaraeon a hwyl.

