Yn gyntaf, golwg gwell ar flodyn y goeden estron o flaen yr eglwys:
Ryn ni wedi bod yn meddwl plannu un yn yr ardd ond mae’n goeden fawr pan fydd wedi aeddfedu felly cawn weld.
Ac yn awr at stori’r diwrnod: ffrae rhwng dau fand o naturiaethwyr ym mynyddoedd y Picos de Europa. Mae cefnogwyr y fwltur barfog, sydd wrthi’n ceisio ail-sefydlu’r adar enfawr fel poblogaeth naturiol yno, wedi cymryd ochr y bugeiliaid yn eu brwydr nhw yn erbyn y blaidd. Maen nhw wedi mynd mor bell a galw ar lywodraeth Asturias i gadw poblogaeth y blaidd ‘o dan reolaeth lem’.
Y ddau fodel o ddiogelu ardaloedd gwyllt sydd yn y cefndir. Yn yr Unol Daleithiau, mae buddiannau bugeiliaid a ffermwyr yn cael eu hystyried a’r un werth a buddiannau bleiddiaid ac anifeiliaid gwyllt eraill. Yn Ewrop fel y cyfryw, buddiannau pobl sy’n dod yn gyntaf – er bod bugeiliaid y Picos yn honni nad yw hynny’n wir mor belled ag y mae eu da nhw a’r blaidd yn y cwestiwn. Mae cefnogwyr y blaidd yn credu y dylai poblogaeth yr anifail hwnnw ymsefydlu ar lefel naturiol. Ond mae awdurdodau Parc y Picos eisoes wedi cytuno i gael un diwrnod o hela bleiddiaid er mwyn cadw’r boblogaeth i lawr.
Er bod y Picos yn ymddangos yn ardal eang, dyw hi ddim yn ddigon i bod un, dynol neu anifail, sydd eisiau ei defnyddio. Rhaid chwilio am gytbwysedd.
