Unwaith eto mae golwg ieuenctid di-waith Asturias yn troi i wynebu’r môr. Ganrif yn ôl, a mwy, fe ymfudodd miloedd o Sbaenwyr, yn enwedig o arfordir y gogledd, yn groes yr Iwerydd i wledydd De’r Amerig, yn chwilio am fywyd gwell. Yr wythnos hon fe ymwelodd llysgennad Chile yn Madrid a ffair fusnes yn Gijón, ac roedd yn awyddus iawn i wahodd pobl ifainc y dalaith i ddilyn eu ffawd ar lannau’r Môr Tawel.
Mae’r atyniad yn amlwg: economi sy’n canolbwyntio ar bethau cyfarwydd fel amaethyddiaeth (da byw a llysiau/ffrwythau, heb sôn am win), mwynfeydd, pysgota, a thechnoleg. Mae economi Chile yn tyfu fis ar ôl mis, 5.5% yn hanner cyntaf y flwyddyn hon. Roedd y llysgennad hefyd yn estyn llaw i groesawu meddygon ‘mae arnom eisiau cannoedd’, meddai.
Dim ond ddoe y bues i’n clebran gyda chymdoges ifanc, wedi colli ei gwaith fel technegydd amaeth, sydd wedi penderfynu taw i Chile y bydd yn mynd os eiff hi. Yn ei lle hi byddwn yn gwneud yr un peth. Achos dyw e ddim fel oedd hi i’w thad-cu na’i hen-dadcu, pan oedd rhai yn diflannu’n gyfangwbl ar ol ymfudo. Fyddai hi ddim yn colli cysylltiad â’r teulu. Byddai hi siwr o fod yn gallu teithio nôl a mlaen o leiaf unwaith y flwyddyn. Siwrne dda iddyn nhw i gyd!
.