Diwrnod arall o haul poeth, a’r awyr o’n cwmpas yn llaith drom. Diwrnod o haf fel y byddwn yn ei ddychmygu, neu’n ei ddwyn o ddroriau cof plentyndod. Y pentref i gyd ar wyliau, onibai am y teulu sy’n cadw’r bar. Ddoe oedd y diwrnod mawr, y ffair gaws a’r ddawns gyda’r nos – h.y. tan 5 o’r gloch y bore ‘ma.
Mae’r bobl yn y llun yn rhuthro i brynu caws Cabrales, caws mwyaf adnabyddus Asturias ac un o’r drutaf. Bach yn las yw e at ‘y nant i, ond yn boblogaidd iawn. Caws mynydd yw e, yn cael ei aeddfedu mewn ogofau.
Pawb wedyn i fewn i’r cae gyferbyn i gael pryd o fwyd, ac ambell i lased bach o seidr, yn yr awyr agored. Dywedir bod yn nogfennau’r maes gymal yn sicrhau y bydd ar gael i’r cymdogion ddiwrnod y ffair gaws a’r bore wedyn (heddiw) ar gyfer y ffair anifeiliaid. Flynyddoedd yn ôlroedd y ffair anifeiliaid werth ei gweld: y gwartheg a’r ceffylau a’r geifr a’r defaid yn cael eu gyrru i lawr o’r mynydd gan borthmyn, a’r rheiny’n gwersylla yn y pentref am fis; y sipsiwn wedyn yn dod i brynu ceffylau a gwerthu basgedi o ddrws i ddrws. Hyd yn oed heddiw mae atgof o’r hyn a fu: yn y bar amser cinio roedd 4 neu 5 o ffermwyr gwartheg yn eu gwisg las, bob un â’i ffon ac yn gweiddi ar ei gilydd fel petaen nhw ar y llethrau ac nid mewn stafell.
Dawns arall heno, ar ôl y gêm bêldroed, i gloi’r fiesta – tan yfory, pan fydd un yn y pentref nesaf.

