Lluniau heddiw o’r llwybr ar lan yr afon. Ar brynhawn o wres ffwrnig, fe gerddais i lawr gyda ‘mrawd i gyfeiriad y traeth. Diwrnod y gweision neidr os bu un erioed. Fe gymrodd taith o hanner awr bron i ddwbl hynny, ond roedd yn bleser anghyffredin. Roedd rhai o’r creaduriaid prydferth (yn enwedig y rhai mawr) yn rhy glou o lawer imi eu dal gyda’r camera, ond dyma rai ohonyn nhw. Ac os byddi di’n gallu helpu eu hadnabod nhw, byddwn yn ddiolchgar iawn.
Rwy’n credu taw’r ffordd i gael lluniau gwell byddai gwisgo welis er gwaetha’r gwres a sefyll yn yr afon. O’r lan roedd rhaid imi bwyso mâs dros y dŵr i ddod yn agos iddyn nhw. Ond mae eu bodolaeth nhw yn codi calon rhywun.
4 diwrnod wedyn:
2 lun newydd, yn well y tro ‘ma.





Y math gorau o daith -un sy’n cymryd hirach na’r disgwyl oherwydd dilyn sgwarnogod diddorol.
Llun 1 a 3 yn dangos aelodau o deulu’r morwynion, fyswn i’n ddeud (demoiselles, o’r genws Calopteryx), y gyntaf yn fenywaidd, a’r lleill yn wrywaidd. Mae’n andros o job cael llun o’r rhain, ond mae llun 1 yn wych, ac wedi cael hwyl ar ddal rhai wrth hedfan hefyd.
(Biti am y montbretia, fel soniaist mewn post cynharach!)
Gan: Wilias ar Awst 12, 2012
am 7:50 pm
Diolch Wilias! Rown i’n meddwl byddet ti’n gwybod. Roedd gyda fi ugain o luniau pert iawn o’r afon a dim gwybedyn yn agos ond dyma’r rhai oedd yn werth eu dangos. Heddiw eto welais i rai anferth yn igam-ogamu ar draws pwll ond dim gobaith eu cael nhw’n glir.
Gan: cathasturias ar Awst 12, 2012
am 10:12 pm