Gweithgaredd – neu chwarae – newydd imi oedd y bolos. Ambell i noson yn chwarae ceilys (gair newydd imi, hefyd) yn nhafarnau Caerdydd flynyddoedd maith ynôla dyna i gyd.
Neithiwr roeddem ni’n 4 tîmo 6 yn chwarae ar bolera’r pentref nesaf, ac fe aeth ymlaen am deirawr, yn diddanu’r cymdogion yn ogystal â’r cyfeillion oedd ddim yn cymryd rhan. Yn hala ofn arnyn nhw weithiau; roedd ambell i chwaraewr dibrofiad (nid myfi) yn ffaelu’n deg â rheoli’r bola ac yn methu’r bolos yn gyfangwbl.
Amcan y gêm yw cnocio’r pinnau i lawr: mae naw ohonyn nhw sy’n ennill pwyntiau, ond gwae’r un sy’n bwrw’r pin bach i lawr achos 0 fydd ei sgor ef. Rhaid cyrraedd y tywod, sy’n cael ei ddwrhau er mwyn gweld yn well lle mae’r bêl wedi glanio. Ac nid towlu ar hyd y llawr fel yr oeddwn i wedi arfer, ond towlu lan i’r awyr a chael y bel i gwympo o flaen y pinnau cyn naill ai eu bwrw nhw neu o leiaf pasio drwyddyn nhw.
A ti’n gwybod beth? Wnaethon ni ennill! Eisiau chwarae eto nawr. Roedd y pryd o wythgoes wedyn yn hyfrydwch pur: tri gwahanol plat, h.y. gyda saws gwahanol a thato. Ond erbyn hynnny roedd hi’n ddu bits a dim pwynt tynnu lluniau. Diolch i Catrin am luniau’r chwarae.

