Dylai fod yn amlwg erbyn hyn faint o’n bywyd ni sy’n ymwneud â bwyd. Ei dyfu, ei brynu, ei goginio, ei fwyta. Ond nid yn aml y bydda’i'n hala cofnod cyfan ar un pysgodyn.
Ond pan gerddom ni i fewn i far y traeth neithiwr, yn griw o 5, a gofyn pa bysgod oedd ar gael, cawsom gynnig un na wyddwn ddim amdano. Dentón, yn Sbaeneg; Dentex dentex, yn Lladin; ac yn Gymraeg : merfog ysgithrog, yn ôl llyfr enwau Cymdeithas Edward Llwyd. Merfog, ie, ond merfog mawr. Tua 60cm o hyd ac 20 o led, lliw arian a phen eitha mawr.
A’r blas yn fendigedig, yn suddlon. Cig gwyn iawn sydd ganddo, ac er bod ein henghraifft ni’n pwyso 2.5 kilo, fe orffennom ni’n cwbl. Wedi ei goginio’n syml iawn ar y plancha, gyda sgleision o dato a salad oedd yn cynnwys wynwns melys.
Y bore ma bues i’n chwilio’r we, a methu canfod dim byd sy’n awgrymu ei fod yn rhywogaeth mewn perygl. Felly byddwn yn dy gynghori di i ofyn amdano, achos yn ôl y wybodaeth ges i mae ar gael ar hyd ochr ddwyreiniol yr Iwerydd.
