Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 23, 2012

Etholiadau Galicia

Bydd tymor etholiadau cymunedol arfordir gogledd Sbaen yn ddiddorol iawn eleni. Nid yn unig mae brwydr newydd yng Ngwlad y Basg, ond mae Galicia yn wynebu sawl newid.

Roedd ei llywydd, Alberto Feijoo (PP) eisoes wedi cyhoeddi y byddai’n torri nifer y seddi yn senedd Galicia o 20%. Barn y gwrthbleidiau, ac yn awr sylwebywyr annibynnol, yw nad mesur er mwyn arbed arian yw hyn, fel y mae Feijoo yn honni, ond ymgais i sicrhau mwyafrif tymor hir yn y senedd.

Ond yn awr, fel yn Asturias ddeunaw mis yn ôl, mae plaid adain-dde arall, un newydd a fagwyd yn Galicia, yn bygwth rhwygo pleidlais y PP a mynd â’r mwyafrif hwnnw i ebargofiant.  Adwaith Mariano Rajoy, prif weinidog Sbaen sydd hefyd yn enedigol o Galicia, yw dweud wrth Feijoo am ddod â’r etholiadau ymlaen i 21ain Hydref, yr un diwrnod â’r rhai Basg. Efallai ei fod yn meddwl gwneud yr ymgyrch yn un ‘genedlaethol’, a cheisio claddu’r problemau. Ond byddai hynny’n golygu na fyddai digon o amser seneddol ar ôl i basio mesur y torri ar nifer y seddi. Ac felly nid yw’n glir eto a fydd Feijoo yn ymddwyn fel y mae arweinydd ei blaid yn dymuno.

A byddai hefyd yn golygu na fyddai amser gan y senedd newydd i gyhoeddi cyllideb erbyn diwedd y flwyddyn: yn Asturias, canlyniad methu gwneud cyllideb oedd bod y FAC (adain-dde, taleithiol) wedi gorfod galw etholiad arall. Fe gollodd.

About these ads

Ymateb

  1. Be di dy ebost di? Newydd ddod adre o Madrid a lot o gwestiynau angen ei hateb, ebosti di fi.

  2. Be di hanes plaid genedlaetholgar Galicia? Os dwi yn cofio’n iawn colli seddau oedd ei hanes yn etholiadau cenedlaethol Spaen pan ddaru y PP ennill.

    • Dwi ddim yn siŵr beth sy’n bod arnyn nhw – ond mae nifer eu seddi yn senedd Galaicia wedi bod yn disgyn yn raddol ers 15 mlynedd


Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: