Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Awst 29, 2012

Iaith a Blog

Mae’n bwrw glaw o’r diwedd. Nid yn drwm ond yn ddi-baid. Sy’n fy ngadael i rhwng llawen a thrist: yn llawen am fod gwir angen y glaw ar y lluarth, ond yn drist hefyd achos mae’n hala fi i deimlo bod yr haf arbennig, eithriadol, a gawsom ni yn Asturias yn awr ar ben. Ond mewn gwirionedd fe allai fod yn danbaid eto’r wythnos nesaf!

Beth bynnag, mae bod yn y tŷ yn ddigon o hwb imi ddiolch o galon i bwy bynnag sydd wedi enwebu’r blog hwn ar gyfer Gwobrau Blogiau Cymru eleni. Ac yn fwy na dim am ddewis dosbarth ‘Ysgrifennu Gorau’! Ymgais ac arbrawf yw fy arddull ar y blog; ar un llaw mae arna’i eisiau swnio’n gyfoes, ar lafar megis, yn ysgrifennu ar gyfer ‘y darllennydd’  – sydd mewn sawl achos wedi datblygu’n gydnabod neu’n gyfaill ar y daith drwy’r rhithfro – yn hytrach nag ‘y darllenwyr’, y dorf, y cyfarfod cyhoeddus.

Ond eto rwyf i wedi dewis ysgrifennu yn Gymraeg, yn uniaith Gymraeg, am reswm syml: rwy’n caru’r iaith. Yn gymdeithasol, yn wleidyddol, yn hanesyddol, yn llenyddol. Ac mae eisiau tipyn bach o garco arni, gofalu amdani: ail-gyflwyno geiriau anghofiedig fel lluarth a chlesin, dysgu rhai sy’n newydd imi, yn enwedig am blanhigion, a chwilio am rai newydd ar gyfer pethau a phrofiadau sydd yn dod i’m rhan drwy ieithoedd eraill (gwair Neifion).  A hefyd, ysgrifennu am amrywiaeth eang o bynciau. Dyna un o’r bethau gorau am y rhestr a gyhoeddwyd o’r blogiau gafodd eu henwebu: amrywiaeth eu cynnwys! Dwi ddim wedi llwyddo i ymweld â phob un eto, ond os bydd y glaw yma’n parhau fydda’i ddim yn hir yn gwneud.

 

About these ads

Ymateb

  1. Fi wnaeth dy enwebu. Pob lwc. O’r diwedd eleni mae blogiau Cymraeg yn cael eu henwebu yng nghanol y blogiau eraill (hy Saesneg) felly gobeothio bydd yn fwy ysgogoiad i i’r di-GYmraeg ymweld a blogiau Cymraeg a defnyddio Google transalet os dymunenet ddarllen y cynnwys.

  2. Diolch Rhys!

  3. Llongyfarchiadau ar gael DAU enwebiad yn y rhestr hir Cath (adran Lifestyle hefyd). Mae dy gamp dyddiol di yn haeddu cydnabyddiaeth.
    Biti am y rhestr fer; 2013 efallai.
    Dwi ddim yn cytuno efo Rhys. Y peryg efo stwffio blogs Cymraeg ymysg y rhai Saesneg ydi bod posib… yn wir tebygrwydd, taw blog Saesneg fydd yn mynd a hi ymhob categori.
    Allan o 10 adran eleni, dim ond yn un ohonynt mae blog Cymraeg wedi cyrraedd y rhestr fer, sef Hacio’r Iaith, dan ‘Technoleg’. Cyfanswm o un yn Gymraeg a 31 yn Saesneg. (Dwi’n seilio hyn ar enwau’r blogs yn bennaf, nid wyf wedi edrych ar bob un mae’n rhaid cyfaddef. Ychydig iawn iawn o Gymraeg sydd ar flog Y Cneifiwr, gyda llaw).
    Dim ond un o’r pump beirniad sy’n sgwennu (a darllen efallai?) yn Gymraeg hyd y gwela’ i; a dwn ‘im faint o ddylanwad oedd gan hwnnw. Dim ond dau sydd ar restr fer yr adran ‘Gymunedol’: dau Saesneg, er bod o leiaf un blog Cymraeg yn y rhestr hir.
    Pam ddim gwobrwyo un blog o bob iaith ymhob categori, a gofyn i’r cyhoedd bleidleisio wedyn ar brif wobr y ddwy iaith?
    Ymddiheuriadau, nid dyma’r lle i mi gael rant! Mi dawaf rwan..

    • Anodd penderfynu! Yn ddelfrydol byddai’n well ‘da fi weld pob blog yn yr un gystadleuaeth, gyda’r amod eu bod nhw’n cael chwarae teg o ran y beirniaid. Yn amlwg dyw canlyniad eleni ddim yn dderbyniol. Ond rwy’n lled-amau hefyd y byddai’r blog hwn mâs ohoni am nad yw e ‘o neu am Gymru’. Y peth pwysig imi yw bod pobl newydd wedi cymryd y cyfle i ymweld â’m blog i a’r holl flogiau eraill, a gobeithio y byddan nhw’n dychwelyd.


Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn

%d bloggers like this: