Yn y de maen nhw’n gorfod gadael eu tai a dianc rhag fflammau’r tân. Unwaith eto’r haf yma, mae’r sychder a’r gwyntoedd cryfion wedi gyrru’r tân i sawl cyfeiriad ar y mynydd rhwng Marbella a Malaga, yng nghanol arfordir twristaidd mwyaf poblogaidd Sbaen. Ond y gwres di-baid, a’r llystyfiant sydd wedi gwywo a heb ei glirio, yw’r fflach sy’n cynnau’r fflammau. Y tro hwn mae 5000 o bobl yn cysgu mewn canolfannau chwaraeon a phebyll; eisoes mae un wedi marw a nifer wedi cael niwed.
Dyma’r flwyddyn waethaf ers degawd, gyda 150,000 hectar wedi eu troi’n ddu. Yma yn Asturias, dyw hi ddim mor dwym: eto mae’r sychder yn achosi problemau annisgwyl.
Dri mis yn ôl, pan fues i yn y rhan hon o’r Picos de Europa ddwethaf, roedd yr eira newydd ddadmer a’r pridd yn fwdlyd dan draed. Newydd gyrraedd oedd y gwartheg a’r da byw eraill. Yn awr mae’r bugeiliaid yn ardal Belbin yn aros i’r awdurdodau gludo tunnelli o ddŵr lan atyn nhw. Mae’r cronfeydd oedd gyda nhw at sychder yr anifeiliaid wedi dod i ben, a hefyd yr un sydd wedi ei thrin â chemegau, yr un maen nhw’n ei defnyddio at eu dibenion personol ac at wneud caws – glanhau offer ac ati.
Wrth i’r llethrau uwchben sychu, daeth y gwartheg i lawr tuag at y cabanau, lle mae dau fugail yn hafota, gan wybod bod dŵr yno. Ond yn awr does dim ar ôl, ac os na fydd yr ‘achub’ yn dod yn fuan, mae’n bosib na fydd caws Gamoneu yn cael ei wneud o hyn tan ddiwedd y tymor – h.y. ryw ddeufis eto. Sy’n golygu y bydd e hyd yn oed yn ddrutach flwyddyn nesaf!
