Mae 30 mlynedd wedi mynd heibio ers i aelodau o luoedd arfog Sbaen geisio newid y drefn yn filitaraidd. Ond mae o leiaf un – ac yn ei dŷb ef, llawer – fyddai’n gwneud yr un peth heddiw petai Catalunya yn ennill annibyniaeth.
Ymddangosodd cyfweliad y Cyrnol Francisco Alaman Castro yn gyntaf arlein, yn Alerta Digital, DS cylchgrawn adain-dde eithafol yw hwn. Ond o ystyried y cyfrwng, a’r erthygl dilynol yn moli’r cyrnol, ni chafodd ei gyhoeddi er mwyn rhybuddio dinasyddion Catalunya na gweddill Sbaen am feddylfryd eu swyddogion milwrol, ond yn hytrach fel mynegiant o farn cwbl gywir.
Yn ôl y Cyrnol, bydd Catalunya yn dod yn genedl annibynnol ‘dros ei gelain ef’ a llawer o’i gyd-swyddogion.
Heb fentro i dir ‘a ddylai hyn ddigwydd’, hoffwn i godi cwpl o bethau. Mewn ffordd, yr un yw athroniaeth y cyrnol a’i wrthwynebwyr: cenedlaetholwyr ydyn nhw. Ond lle mae ef yn credu o ddifri bod Sbaen yn genedl, mae’r Catalaniaid yn gweld gwladwriaeth. A lle maen nhw’n gweld cenedl, ni wêl y cyrnol ond talaith. Dyw e ddim hyd yn oed yn cytuno â’r drefn o gymunedau awtonomaidd. Gwell ganddo weld popeth yn cael ei redeg o Madrid.
Ac yn ail, cwestiwn: a ddylid ehangu’r rhyddid sydd gyda ni nawr, i fynegi’r hyn a fynnom ar y we, i gynnwys gweision y wladwriaeth (lluoedd arfog? heddlu? gweision suful? meddygon?) heb fod hynny’n effeithio ar eu gyrfaoedd nhw? Neu a oes angen rheolau o hyd, oes ‘na rai pethau na ddylid eu caniatau – a phwy sy’n mynd i reoli’r rheolau?