Ryw fis yn ôl wnes i ddarllen cofnod blog gan Carl Morris ynglŷn ag ariannu torfol ym maes diwylliant – casglu symiau bach gan nifer fawr o bobl er mwyn cyhoeddi llyfr, albwm o gerddoriaeth, beth bynnag. Mewn un darn, gresynu oedd e am gostau uchel prosesau fel animeiddio, ac yn amau a fyddai’n bosib o gwbl gasglu digon o arian i dalu am ffilm.
Rwy’n credu ei fod yn iawn, na fyddai’n bosib ariannu prosiect cyfan, ond beth am hyn:
Rwyf i newydd gyfrannu drwy ariannu torfol tuag at ffilm o’r enw To Say Goodbye/Decir Adiós sydd yn adrodd hanes y miloedd o blant Basgaidd gafodd eu ‘hachub’ a’u danfon i’r DU yn ystod rhyfel Sbaen. Am ychydig fisoedd, oedd hi i fod, ond nid felly y bu. Fel mae’n digwydd bod, mae’r ffilm yn defnyddio lluniau animeiddiedig, ond mae’r lleisiau’n perthyn i rai o’r ‘plant’ hynny, erbyn hyn yn eu 80au/90au, na ddychwelodd erioed i wlad eu mebyd. Nawr am y tro cyntaf maen nhw’n cael cyfle i adrodd eu hanes eu hunain.
Bydd yn cael ei premiere byd-eang yng ngŵyl Donostia/San Sebastian o fewn dyddiau, a diben yr ariannu torfol oedd cael digon i baratoi fersiynau digidol i fynd o gwmpas gwyliau ffilm y gaeaf a cheisio ennill dosbarthiad ehangach mewn sinemau. Izaskun Arandia a Matt Richards sydd wrth y llyw, hithau’n Fasges ac yntau’n frodor o Gernyw. Roedd dwy wefan gyfrannu, un yn Saesneg a’r llall yn Sbaeneg, ac fe lwyddwyd i gasglu dros €3000 a $2000 rhyngddyn nhw. (Maen nhw wedi cau nawr).
Galw felly ar unrhyw un sy’n trefnu gŵyl ffilm yng Nghymru i ystyried To Say Goodbye. Rhaglun fan hyn. Bydd y fersiwn sy’n cael ei dangos yn Donostia yn uniaith Saesneg, gydag is-deitlau yn Sbaeneg ac Euskera, ond wedyn maen nhw’n mynd i’w dybio i’r ieithoedd hynny. Adolygiad pan fydda’i wedi ei gweld!