Hwn yw’r haf sychaf a phoethaf ers inni brynu’r tŷ. Erbyn mae’r glaswellt wedi troi’n wair melyn marw, a’r blodau wedi hastu i ddatblygu’n hadlestri. Ai dyna pam mae’r gwenyn yn ymddwyn fel hyn?
Gwenyn ydyn nhw, yn yfed sudd y mafon. A nhw sydd wedi tyllu i fewn i’r ffrwythau bach, nid fel y picwns hynny sy’n meddwi ar afalau gor-aeddfed ar ôl i aderyn cael ei big i fewn gyntaf.
Yn ôl y lluniau, rwy’n credu taw gwenyn gwyllt cynefin ydyn nhw, a elwir yn wenyn duon, er gwaetha’r stribedi melyn.
Ond byddwn yn dra diolchgar pe bai’r naturiaethwyr (gan edrych arnoch chi, Wilias ac Arwel) yn gallu dweud a yw hynny’n iawn, a hefyd cynnig esboniad am eu hymddygiad heblaw’r sychder.
Fiesta olaf yr haf heno – gobeithio na welwn ni ddiwedd y tywydd heulog i gyd ond fe fyddai tipyn bach o law yn cael croeseo fan hyn.

Hynod ddifyr, ond dwi’n methu cynnig ateb pendant, mae gen’ i ofn, heblaw i ddyfalu, tybed, os ydi’r blodau -yn y gerddi, ac yn y gwyllt- wedi gorffen yn gynt na’r arfer oherwydd y sychder, fod yna brinder paill a neithdar, a’u bod yn gorfod canfod bwyd a siwgwr o ffynhonellau gwahanol i’r arfer, ar gyfer y mag yn y nyth?
Gan: Wilias ar Medi 9, 2012
am 11:49 pm
Dwi ddim yn gallu dychmygu unrhyw ateb arall. Eisiau’r hylif hefyd efallai. Roedden nhw yno heddiw eto, a minnau’n teimlo na ddylwn i ddim casglu’r mafon – bod eisiau’r ffrwyth ar y gwenyn yn fwy na fi! Mae’r ffigys newydd ddechrau.
Gan: cathasturias ar Medi 10, 2012
am 4:34 pm