Yn lle becso am y baedd gwyllt sy’n ceisio distrywio’n llysiau ni, rqy’n mynd i adrodd hanes pla naturiol arall, un sydd er gwaethaf ei faint bychan wedi dymchwel miloedd o goed pîn ar draws Ewrop.
Gwyfyn yw e, neu yn hytrach larfa gwyfyn: gwyfyn gorymdeithiol y pîn (Thaumetopoea pityocampa). A dyma lle maen nhw’n byw:
Yn aml fe fydd mwy nag un ‘babell’, neu nith, ar un goeden. Y tu fewn, cannoedd o larfae yn bwyta dail y pîn, nes bod y goeden yn marw. A phan fydd hynny’n digwydd, maen nhw’n cerdded i lawr, mewn un rhes hir, trwyn un yng nghwt yr un o’i flaen, nes cyrraedd coeden arall. Yn eu blaen yn syth, dros ben creigiau yn hytrach nag o’u hamgylch, aiff yr orymdaith. Ychydig o flynyddoedd yn ôl fe welsom ni orymdaith oedd wedi mynd o dan olwynion car wrth groesi heol fynyddig. Roedd tri grŵp, felly : y rhai oedd yn y pen, y rhai oedd ‘rhwng yr olwynion’ a’r rhai yn y cefn. Roedd popeth ar stop, a’r creaduriaid yn edrych o’u cwmpas heb wybod beth i’w wneud.
Wnes i ddarllen rywle bod arbrawf wedi ei wneud gyda nhw: eu trefnu mewn rhes, ac yna uno’r blaen a’r cefn, fel eu bod nhw’n cerdded mewn cylch. Buon nhw fel ‘na am wythnos gyfan yn cerdded rownd a rownd. Ond maen nhw yn lladd y coedwigoedd pîn. Trueni na fydden nhw wedi cymryd at yr ewcaliptws, mae digonedd o’r rheiny i gael.
