Cofnod bach clou iawn cyn bod cyfeillion yn cyrraedd o’r de pellaf i dreulio diwrnod neu ddau yn y glaw.
Ac efallai taw hanes y glaw yw hi eto – does neb yn siŵr iawn. Ond tua hanner nos, yn nhref fach Arenas de Cabrales yn y Picos de Europa, fe chwalwyd dau dŷ a dau weithdy caws pan dorrodd ton o ddŵr enfawr drostynt, yn cario tunnelli o greigiau. Mae un fenyw ar goll, un dyn wedi ei anafu’n ddifrifol a pâr wedi cael mân anafiadau.
Bydd y sawl sydd wedi ymweld ag ardal dwyreiniol y Picos yn gyfarwydd ag Arenas de Cabrales: o’r fan honno aiff yr heol fach sy’n mynd i Poncebos, man cychwyn y Ruta del Cares a llwybr Bulnes. Heddiw mae’n llawn gweithwyr yn clirio’r llanastr ac yn ceisio darganfod beth oedd achos y ddamwain: a dorrodd wal y gamlas sy’n cario dŵr yr afon Cares, neu a chwalwyd hi gan dirlithriad o’r mynydd.
Ac un nodyn bach diddorol arall: mae TVE, teledu cyhoeddus Sbaen, wedi ymddiheuro i’w gwylwyr am ddodi gorymdaith Catalwnia yn bumed yn eu rhaglen newyddion nos Fawrth. Maen nhw nawr yn cydnabod ei bod hi llawer mwy pwysig na hynny. (Ac yn amlwg wedi derbyn nifer fawr o gwynion.)