Mae’n dawel iawn yn y pentref heddiw: pawb wedi mynd i Nueva ar gyfer fiesta’r Cristo. Pentref mwy o faint yw Nueva, dros 700 o bobl, ac mae sefyllfa’r fiestas yno yn gyfarwydd iawn i unrhyw un sydd wedi gweld lluosog gapeli trefi bach Cymru. Mae ‘na eglwys, ond hefyd dau gapel sy’n perthyn iddi. Ac mae i bob capel ei ffyddloniaid, na fyddan fyth yn mynychu’r capel ‘arall’. Dwy fiesta felly, la Blanca y el Cristo , a dim ond wythnos sydd rhyngddyn nhw.
Dyma orymdaith y Cristo, neithiwr, ar ei ffordd i blannu’r goeden sy’n arwydd bod yr ŵyl ar ddechrau. Mae gwŷr y Cristo yn gorymdeithio – ac yn cario’r goeden – yn eu gwisg draddodiadol, y porruano – hyd yn oed y rhai lleiaf:
Ond mae lle i bawb, gyda’r menywod yn canu ac yn bwrw’r tambwrîn.
Aiff yr orymdaith drwy strydoedd cul Nueva nes cyrraedd y capel ‘Cristo del Amparo‘ (Crist ein Diogelwch) sydd wedi sefyll yno ers tri chan mlynedd. Ar ôl plannu’r goeden – fydd yn aros yn ei lle tan y flwyddyn nesaf – mae cyngerdd gan fandiau pibgorn ac grwpiau dawnsio gwerin yr ardal.
Heddiw bu’r offeren, gorymdaith arall gan y merched, a lot fawr o fwyta ac yfed seidr. Heno bydd dawnsio eto, ond (yn dawel) rwy’n credu fy mod i wedi blino gormod!


