Nofio ddoe, garddio heddiw. Mae gwres anhygoel mis Awst wedi darfod ond mae’r tymheredd o gwmpas y 24C o hyd, gyda digon o awel i beidio â bod yn orthrymus. Fel arfer, roedd nofio yn y môr ym mae Guadamia, ar benllanw a neb ond myfi yno, yn fraint o’r mwyaf. Ond heddiw roedd rhaid aros yn yr ardd a dechrau ar rai o dasgiau bach ddiwedd yr haf.
Casglu tomatos: wel dyw hwnnw ddim yn boen, mae’n bleser. Ac maen nhw’n addo glaw ddydd Mawrth, felly bydd gyda fi ddiwrnod yn y gegin yn eu rhostio nhw a gwneud saws i fynd i’r rhewgell.
Ac roedd cyfeilles wedi rhoi lelog – neu efallai bwdlia, roedd hi’n methu cofio – inni. Roedd e wedi bod gyda hi mewn pot ers tair blynedd, ond erioed wedi blodeuo. Pan dynnom ni fe mâs o’r pot roedd yn hollol sownd a’r gwreiddiau’n un belen. Gobeithio y bydd yn hapusach yn y pridd.
Bu’r gŵr yn torri nôl (yn llym) ar rai o’r coed ar y ffin rhyngddom ni a’r lle gwag drws nesaf. A bues i’n pendroni uwch y graig o dan y teras, a wedyn dechrau chwynnu, tynnu cerrig mân, a chasglu’r pridd i rai o’r pocedi dyfnaf, gan feddwl glanhau’r rhai bas a’u gadael yn graignoeth.
A thrwy’r amser wrth gwrs yn mynd i gael pip ar Drydar i weld beth oedd tynged y Sgarlets! Llongyfarchiadau bois.
