Mae’r ddwy blaid fawr Sbeinig-ganolog yn awr wedi ymateb i ofynion a dyheadau pobl cenhedloedd yr ymylon. Nid, wrth gwrs, eu bod nhw’n fodlon defnyddio’r term cenedl i ddisgrifio dim byd llai na Sbaen gyfan. Yn wyneb y gefnogaeth sydd yn awr yng Nghatalwnia i’r syniad o wladwriaeth annibynnol, ac yn wyneb y llwyddiant a broffwydir i Bildu yn etholiadau Gwlad y Basg, dyma beth ddaeth:
PP, plaid mewn grym (adain-dde ‘canol’ yn unig yn yr ystyr bod ‘na grwpiau ymhellach i’r dde na nhw): amddiffyn undod y Sbaen bresennol, y frenhiniaeth, traddodiad, lle pwysig i’r eglwys Gatholig. Ceisio gwahardd refferendwm arfaethedig Catalwnia.
PSOE, gwrthblaid (adain chwith canol – mae ‘na glymblaid eithaf pwysig i’r chwith o’r rheiny, IU): wedi darganfod rhinweddau ffederaliaeth. Tiriogaethau yw eu gair nhw am y cenhedloedd a’r taleithiau. Mae nhw wedi dweud pethau fel hyn o’r blaen, pan fydden nhw heb eu dwylo ar y llyw. Beth na ddywedwyd hyd yn hyn yw pa fath o ffederaliaeth y byddai’r PSOE yn ei chefnogi: a fyddai pob gymuned bresennol yn cael yr un driniaeth (ar hyn o bryd maen nhw’n amrywio’n fawr iawn)? a fyddai pwerau trethu gyda nhw?
Mae’r PP yn gweld ffederaliaeth fel cam ar y ffordd i hollti Sbaen, gan bwyntio mâs y byddai Catalwnia oedd yn aelod o ffederaliaeth yn gallu (yn gyfansoddiadol felly) pleidleisio dros beidio â bod yn aelod. Tra bod Sbaen yn aros yn wladwriaeth awtonomaidd, fe fyddai’n rhaid i holl etholwyr Sbaen bleidleisio i newid cyfansoddiad Sbaen cyn y gallai Catalwnia (e.e.) fynnu’i hannibyniaeth.
Wel, mae gan y PSOE gyfle gwych yn awr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol Gwlad y Basg, a Galicia o fewn y mis, ac wedyn Catalwnia fis ar ôl hynny, i esbonio beth yn union yw eu polisi a cheisio argyhoeddi pobl y byddai hi’n decach ac yn arwain at fywyd gwell. Nid yr economi fydd yr unig bwnc llosg y tro yma.
Newydd Dorri: Pan fydd holl lywyddion cymunedau Sbaen yn cyfarfod yr wythnos nesaf, bydd llywydd (PSOE) yr un fwyaf, Andalucia, yn siarad o blaid ffederaliaeth. Fe fydd Mas o Gatalwnia wrth gwrs yn siarad dros annibyniaeth yno. Ond mae’r rhan fwyaf o’r llywyddion yn aelodau o’r PP, dim ond siarad fydd hi.