Nid yn aml mae’n pentref bach ni ar dudalen flaen y papur, ond mae e heddiw. A hynny oherwydd darganfyddiad hen iawn. Esgyrn a all fod rhwng 20,000 a 40,000 mlwydd oed. Esgyrn (anferth) anifeiliaid fel y bual, y reinoseros gwlanog, a hyd yn oed y mamoth.
Fel hyn y digwyddodd: roedd wyrion ein cymdogion dros y ffordd wrthi’n paratoi safle ar gyfer codi tŷ. Pan lwyddon nhw i symud un graig fawr, cododd ‘chwa o wynt’ oddi tani, a phan aethon nhw i lawr dyna lle’r oedd yr esgyrn. Mae gwaith yr adeiladu ar stop tra bod ymchwilwyr o Brifysgol Uviéu/Oviedo yn gwneud eu gwaith, ac mae’n debyg bod sawl posibilrwydd.
Efallai bod yr anifeiliaid wedi cwympo i dwll neu ogof naturiol yn hollol ddamweiniol. Mae’r garreg galch yn llawn ogofau, ac mae’n bosib bod y graig hefyd wedi dod yn rhydd a rholio i orchuddio’r twll. Mae’n bosib bod trigolion cynnar yr ardal lle saif y pentref heddiw wedi defnyddio ogof naturiol fel pwll i ddal yr anifeiliaid, gan eu cwrso nhw tuag ato. Ac mae’n bosib taw dyma lle bu’r hendeidiau yn towlu’r esgyrn ar ôl y pryd.
Allwn ni ddim hyd yn oed bod yn sicr ai’n hendeidiau ni oedden nhw: dyma’r oes pan oedd homo sapiens yn greadur newydd ar wyneb y ddaear, a’r Neandertals yn dal yn byw mewn sawl lle yn y penrhyn Iberaidd. Bydd rhaid inni dalu mwy o sylw wrth balu’r ardd y gaeaf yma, rhag ofn y bydd esgyrn hynafol gyda ni hefyd.
