Bu’n flwyddyn wael yng nghoedwigoedd Sbaen. Eisoes mae dros 150,000ha o goed wedi eu llosgi’n ulw – tua’r un faint ag arwynebedd Meirionnydd. Mae wyth o bobl wedi marw, rhai wrth eu gwaith o geisio diffodd y tanau, eraill yn ffaelu dianc o’u cartrefi. Y gwaethaf ers degawd.
Ac yn awr mae toriadau’r llywodraeth ganolog yn golygu na fydd y gwaith o ailblannu, na chlirio’r llanast, na gwneud mannau agored i rwystro tanau yn y dyfodol, yn cael ei wneud i’r graddau sydd ei angen. A’r rheswm yw hyn: mae llawer o’r arian ar gyfer y gwaith hwn yn dod gan yr Undeb Ewropeaidd. Ac mae’n dod o dan y drefn ariannu ar y cyd. Os bydd torri ar y gyllideb o fewn Sbaen, neu o fewn un o’r cymunedau awtonomaidd, bydd yr un faint o gymorthdal yn diflannu hefyd.
Bydd llawer mwy o danau fel hyn y flwyddyn nesaf.
A dim ond y dechrau yw hyn: bydd cannoedd o gynlluniau bach a mawr i wella ardaloedd cefn gwlad hefyd yn cael eu gohirio am yr un rheswm. Y rhai tlotaf, a heb adnoddau, yn colli hyd yn oed yr hyn oedd wedi ei addo iddyn nhw. A digon o arian i achub y bancwyr.
