Hydref. Yn swyddogol, mae tymor yr hydref wedi cyrraedd Asturias, a Sbaen, ers yr 21ain o Fedi, ond fel arfer y diwrnod mae pobl yn cyfri fel newid tymor yw heddiw- diwrnod yr awr. Does neb yn edrych ymlaen at weld y nos yn dod yn gynt, na’r gwynt main yn chwipio gwynebau gweithwyr yr awyr agored.
Mae cnydau’r haf wedi cwpla: planhigion tomatos, berenjenas (aubergines), corbwmpenni, ffa bach Ffrengig, pŷs, i gyd wedi mynd i orffwys ar y domen gompost.
Mae’r ffa wedi’u sychu, y cnau Ffrengig wedi eu dosbarthu yn ôl eu maint: y rhai tewaf ar gyfer yr olew, y rhai mawr ond llai tew i’w bwyta’n amrwd, y rhai llai ar gyfer cacenni, ac mae llawr y stafell sbâr yn llawn ohonyn nhw. Yn y stafell o dan y tŷ mae wynwns, garlleg, tato a phwmpenni, ac yn y rhewgell tomatos rhost a ffrwyth. Eleni rydym ni’n rhoi prawf ar rewi ffigys – mwy am hwnnw pan ddôn nhw mâs.
Mae’r afalau wedi’u malu (wel, y rhan fwyaf) a’r sudd yn llifo o’r wasg. Y peth nesaf fydd yr aros, aros iddo droi’n seidr. Ond sêr 2012 yw’r clesin:
Maen nhw hefyd yn y stafell sbâr, gyda’r celfi sydd wedi cael dod i fewn o’r ardd. Ond mae 3 kilo eisoes wedi eu troi yn bast – y membrillo sy’n cael ei werthu mewn potiau bach plastig. Er bod hwn wrth gwrs gan ei fod wedi ei wneud gartref yn llai caled.
Mae’n hawdd iawn ei wneud. Yn gyntaf rhaid rhwbio’r ffrwyth â lliain, i gael gwared ar y ffwr sydd ar y croen. Wedyn tynnu’r croen a’r craidd, eu torri nhw’n chwarteri a’u dodi nhw mewn sosban fawr gydag ychydig o ddŵr (wnes i ddefnyddio sudd y clesin gan fod e gyda fi yn barod). Gadael iddyn nhw feddalu ar dân isel, ac yna eu stwnsio nhw – â llaw neu a pheiriant. Eu pwyso, ac ychwanegu 300g o siwgr i bob 500 o ffrwyth. Mae llai o siwgr yn iawn hefyd, ond mae’n golygu na fydd y past dim yn parhau cyhyd.
Nôl â’r cwbl i’r sosban, a’i goginio’n dawel am awr neu hyd yn oed awr a hanner nes bod y cyfan yn mynd yn fwy solet ac yn binc tywyll. Mae’n cael ei fwyta gyda chaws, a phriodas perffaith yw e hefyd.


Swnio, ac edrych yn flasus iawn. Oes gan y past fantais dros jeli?
Gan: Wilias ar Hydref 29, 2012
am 9:43 pm
Rwy’n cadw clesin mewn tair ffordd: cyffaith/jeli melys at frecwast, jeli sbeis i’w fwyta gyda chig, a’r past sy’n cydfynd yn well â chaws. Mae’n dewach na jeli ac efallai taw’r gweadedd sy’n gweddu i’r caws gymaint.
Gan: cathasturias ar Hydref 30, 2012
am 10:08 am