Asturias yn Gymraeg

Beth Gawn ni i Ginio?
Mae pawb yn gorfod bwyta. Yn ôl yr Hitchhiker’s Guide to the Galaxy, mae 3 chyfnod i wareiddiad: yn gyntaf, gofyn ‘sut allwn ni gael rhywbeth i fwyta?’, yn ail, ‘pam fod rhaid inni fwyta?’ ac yn drydydd ‘ble’r awn ni i gael cinio?’ Mae’r rhan fwyaf ohonom ni sy’n siarad Cymraeg yn gyfforddus yn y 3ydd cyfnod, ond a ydym ni’n bwyta (neu’n coginio) yn dda?

Taith diweddar i Gymru sydd wedi hala fi i feddwl am y pethau hyn: mewn archfarchnad fe welais i dun o bŷs gyda chyfarwyddyd ar sut i’w goginio. Y frawddeg gyntaf oedd: arllwyswych y pŷs i sosban. Yn lle beth? Dodi’r tun yn uniongyrchol ar y tân? Neu a ddylwn i fod yn ddiolchgar nad oedd e ddim yn dweud ‘agorwch y tun’?

Mae siopau mawr Sbaen yn wahanol. Os brynwch chi rhywbeth fel pizza parod, mae’n dod gyda nodiadau ar y tymheredd a’r amser coginio sydd eu hangen. Ond os brynwch chi bŷs, mewn tun neu wedi rhewi, neu sached fach o spaghetti, mae lan i chi. Nid bod pawb yn gwybod popeth. Yn aml iawn wrth yr adran bysgod (yn yr archfarchnad), rwyf i wedi cael sgwrs gyda’r gwerthwr a’r cwsmeriaid eraill ynglŷn â’r ffordd orau i drin rhyw bysgodyn neu fwyd môr neilltuol.

Mae’r agwedd yma’n bresennol hefyd mewn tai bwyta. Yr arfer yw i bobl hollol normal fel ein cymdogion ni o’r pentref holi’r gweinydd yn fanwl am y platiau sydd ar y fwydlen. Dydyn nhw ddim yn gofyn a oes cnau neu a oes glwten; maen nhw eisiau gwybod o ble daeth y pysgodyn neu’r cig, neu ba lysiau sydd wedi eu coginio gydag e. Hynny yw, mae’r cymdogion yn gwybod llawer am ddewis eithaf cyfyng o fwydydd. Ddaeth ymerodraeth Sbaen ddim â’r amrywiaeth i’n ceginau a gafwyd gan yr ymerodraeth Brydeinig.

Tan yn ddiweddar, roedd hi’n amhosib prynu sinsir – neu hyd yn oed helogan -  yn lleol. Diolch i un fenyw sy’n cadw stondin yn y farchnad, mae pethau’n newid. Ond nid pawb sy’n siopa yn y farchnad. Nid pawb sydd â lleuarth i dyfu ychydig o letys a ffa. Mae’r traddodiad bwyd yn dal yn fyw, ond rhaid gofyn a fydd yn parhau drwy’r argyfwng economaidd, yn enwedig yn y dinasoedd.

Saif fy ngobaith yn gadarn ar ysgwyddau’r tri llanc a glywais ar y trên pwy ddiwrnod: 15 neu 16 oed, yn dadlau’n ffyrnig yn y sêt y tu ôl imi. Am y ffordd orau – na, am y ffordd gywir – i wneud tortilla.  Cadwch ati, bois bach.

Pobl v Bleiddiaid
Mae’r blaidd yn ôl yn Ribadesella.

Dyma’r mynyddoedd y tu cefn i’n tŷ ni, yn gwisgo het niwl. Edrych tua’r de mae’r llun, o gyfeiriad yr arfordir.  Yr ochr arall, mae nifer o gymoedd cul heulog lle mae rhai o’r cymdogion yn dal i fynd ag anifeiliaid i bori dros yr haf.

A dyna lle mae’r bleiddiaid. Dros y misoedd diwethaf, dywed ffermwyr bod degau o ddefaid ac ŵyn bach wedi eu lladd. Mae sierras y rhan hon o Asturias yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin, ac wrth fynd tua’r de mae pob un yn codi’n uwch na’r un flaenorol. Yn gopa ar y cyfan mae’r Picos de Europa, parc cenedlaethol gyda chopaon dros 2500m. Yn y fan honno, wrth gwrs, mae anifeiliaid gwyllt fel y blaidd a’r baedd gwyllt yn cael llonydd, er bod y ffermwyr yn dal i gwyno am y diford y maen nhw’n ei wneud a’r amser hir mae’r awdurdodau’n cymryd i dalu iawndal. Ac mae wedi bod yn llwydiant aruthrol o safbwynt yr anifeiliaid.

Pan brynsom ni’r tŷ i lawr ar yr arfordir 11 mlynedd yn ôl doedd dim sôn am fleiddiaid. Hanesion efallai eu bod nhw’n dod i lawr rywfaint yn ystod y gaeaf – ond nid eu bod yn gwneud cartrefi mewn ardaloedd ehangach. Ac er bod mynd mawr ar saethu’r baedd gwyllt, roedd pawb yn dweud na fydden nhw byth yn croesi’r draffordd. (Doeddwn i ddim yn cydfynd â hyn: roedd digon o afonydd a lonydd bach yn dod o dan y draffordd, dim rhaid i deulu bach y baedd fynd i unrhyw berygl!)

Nawr, mae’r baedd gwyllt a’i dylwyth estynedig yn broblem o fewn pentrefi, ac anodd iawn yw eu cadw nhw mâs o’r lleuarth. Dydyn nhw ddim yn bwyta’r llysiau, o na. Dim ond eu palu nhw lan fel JCBs gwyllt wrth chwilio am fwydod. Ac eleni mae’r blaidd hefyd wedi dod yn agos iawn. Yn ôl y cyfryngau, roedd un o’r ymosodiadau diweddaraf ar ddefaid o fewn corral (corlan), a hynny o fewn 100m o gartrefi pentref Santianes, sydd reit ar yr heol fawr rhwng Ribadesella ac Arriondas. Dywed y ffermwyr nad oes dim byd tebyg wedi digwydd mewn 30 mlynedd.

Pobl sydd wedi ei gwneud yn haws i’r anifeiliaid luosogi a lledu, a hynny mewn dwy ffordd. Yn gyntaf, drwy eu diogelu nhw rhag y drylliau a’r gwenwyn, ac yn ail, drwy roi’r gorau i ffermio tiroedd helaeth. Mae’n mynd yn anoddach fyth wneud bywoliaeth wrth gadw anifeiliaid ar y tir uchel, ac mae swyddi eraill fyddai wedi cadw teulu yn mynd yn brinnach. Canlyniad, mwy o bobl ifainc yn gadael. Am byth.

Dyna’r sefyllfa. Nawr rhaid i bobl ddod at ei gilydd i geisio penderfynu sut y gall ffermwyr a naturiaethwyr fod yn fodlon. Neu a fydd rhaid i drigolion pentrefi’r mynyddoedd gymryd eu tro unwaith eto yn y cabanau bach, yn udo i ddenu’r bleiddiaid,  fel bod y cymdogion yn gallu’u lladd nhw.

caban denu bleiddiaid, Cain

Yr Ardd Fotaneg
Wedi bod ar wibdaith o gwmpas Cymru yn ymweld â’r teulu a chyfeillion. Ac ar y ffordd, treulio prynhawn yn yr Ardd Fotaneg yn Llanarthne ger Caerfyrddin.  Roeddwn i heb fod yno ers blynyddoedd – yn fuan ar ôl iddi gael ei hagor. Am ddatblygiad!

Mae’r tŷ gwydr enfawr yn awr yn gartref i blanhigion aeddfed, a choed, ac roedd llawer ohonyn nhw yn eu blodau neu’n llawn blagur.

protea

Dyma’r protea, blodyn cenedlaethol De’r Affrig – yr unig un o’i fath oedd wedi agor, felly bydd y gweddill yn aros pwy bynnag sy’n mynd yno o fewn y tair wythnos nesaf.  Iphoto wrth gwrs am imi roi enw ar yr ‘wyneb’ a welai yn y llun!

echium

Yn yr Ynysoedd Dedwydd y tŷf yr echium: doeddwn i erioed wedi gweld un mor goch o’r blaen. Roedd hwn tua 1.5m o uchder, ond eraill yn cyrraedd 2m. Wnes i lwyddo i dyfu un rai blynyddoedd yn ôl, ond dim ond wrth gael y planhigyn yn flwydd oed gan gyfaill.

Dydyn nhw ddim yn blodeuo tan yr ail flwyddyn, ac mae amheuaeth gyda fi a fyddai planhigyn o sychder yr ynysoedd wedi goroesi gaeaf gwlyb Asturias.  Ond fel sy’n amlwg doedd ganddo ddim problem tyfu’n llysieuol, ac efallai rhof i siawns arall iddyn nhw.

Rwyf i dal heb sôn am yr ardd gyda’r wal-ddwbl, sydd hefyd yn llawn pethau gwerth eu gweld. Ond gardd i’r haf a’r hydref yw honno’n fwy na dim, heb fod ar ei gorau ddechrau mis Mai oer.

Pigion Asturias Heddiw
Mae eog cyntaf y tymor wedi ei ddal a’i bwyso a mesur: 90cm o hyd ac yn pwyso bron i 9kg. Daliwyd ef am 7.30 y bore ‘ma yn nwyrain Asturias, yn afon Sella. yn agos i dref Cangas de Onis. Yn ôl y traddodiad, bydd y campanu yn cael ei werthu mewn ocsiwn, a bydd tŷ bwyta lleol yn mwynhau diwrnod o gyhoeddusrwydd wrth ei droi’n ddanteithion.

Bob dydd daw newyddion gwaeth o gymoedd y glo. Heddiw daeth i’r amlwg nad yw’r cwmniau glo yn talu’r hyn a ddylen nhw i’r 7000 o lowyr sydd eisoes wedi ymddeol yn gynnar.  Mae hyn yn arian a gafwyd gan Ewrop er mwyn lleihau’r cymorthdal cyhoeddus i’r diwydiant glo, ac mae’r cwmniau i weld yn ei ddefnyddio fel cymorthdal iddyn nhw. Yn ôl yr undeb fel gollwyd dros €2000 yr un yn ystod 2012 – €14 miliwn fyddai wedi cael ei wario yn y cymoedd.

Mae’r glaw yn dal i wneud difrod: bu’n rhaid i ogof lluniau Tito Bustillo yn Ribadesella gau am yr eildro eleni oherwydd llifogydd. ac ychydig i’r gorllewin cwympodd tirlithriad dros y draffordd gan gau tair lôn am oriau.

Ddoe a heddiw bu ymgyrchwyr dros yr iaith Astwreg yn cofio’r 34 o flynyddoedd y maen nhw wedi bod yn ceisio cael statws swyddogol iddi. Yn eu plith, aelodau Iniciativa pol Asturianu, yn amlwg yn disgwyl mwy o law. Maen nhw wrthi’n gwerthu ambarels gyda’r slogan ‘Nun te mueyes col agua… muéyate pol asturianu’  – paid â gwlychu yn y glaw … ond cael dy wlychu dros yr iaith.

Blagur a Mwy
lluniau heddiw wedi eu hysbrydoli gan flog hyfryd Ar Asgwrn y Graig.

blagur coeden afal Enlli

Wnaethom ni brynu’r goeden fach hon ddechrau’r flwyddyn, a dyma hi’n dangos ei blodau am y tro cyntaf. Os oedd hi’n gallu byw’n hapus ar ynys Enlli fe ddylai arfordir dwyrain Asturias fod yn nefoedd iddi. Edrych ymlaen yn fawr ar flasu’r ffrwyth: yn ôl y gwerthwr mae ‘arogl lemwn’ arnyn nhw.

gellyg Conference bychain

Mae’r coed gellyg fel arfer ymhell o flaen yr afalau: Conference yw’r babis bach yma. Bydd rhaid towlu rhan helaeth mewn mis os na fydd y gwynt wedi gwneud y gwaith drosom ni. Fydd y goeden fyth yn gallu dod â phob un i aeddfedrwydd.

A beth yw’r rhain? Am y tro cyntaf yn ein gardd ni, blagur ar yr aguacatero – y goeden afocado -  a dyfodd yn y domen gompost. Mae’r goeden ei hunan tua 3m o uchder, ond maen nhw’n gallu tyfu llawer mwy na hynny. Tybed a gawn ni ffrwyth eleni?

Glaswellt dros eu Llwybrau i Gyd
Mor hawdd yw peidio ag ysgrifennu! Bues i am dros ddwy flynedd yn cyhoeddi cofnod newydd bob dydd, ond yn ddiweddar un yr wythnos yw hi.

Ond mae sefyllfa drychinebus y di-waith yn fy ngorfodi i’w hadrodd. 6 miliwn ohonyn nhw yn Sbaen. 123,000 yn Asturias fechan. 64% o ieuenctid Asturias mâs o waith. Mae’r gyfundrefn yn wahanol yn Sbaen, a dyma rhai o’r pethau fydd yn ymddangos yn ddieithr i Gymry. Does dim hawl mynnu tâl diweithdra heb gyfrannu: blwyddyn o cotización  (taliadau o’r cyflog yn debyg i’n hyswiriant cenedlaethol ni) cyn cael dim. A dim ond am ddwy flynedd mae’n parhau. Ar ôl hynny, rhaid gwneud cais am gymorth yn unol â’th sefyllfa bersonol – teulu, plant, iechyd.

Eisoes dros y 5 mlynedd diwethaf, mae cynilion tadcu a mamgu wedi mynd i gadw’r ifainc, i’w helpu nhw i gael mwy a mwy o addysg yn ogystal ag i gael rhywle i fyw a rhywbeth i’w fwyta. Mae’r bobl ifanc yr wyf i’n eu hadnabod yn rhai o’r mwyaf dysgedig a welais yn fy myw. Gradd gyntaf, gradd meistr, hyfforddiant technegol a phroffesiynol, iaith Saesneg, iaith Almaeneg. Dyma’r bobl sy’n mynd bant, sy’n allfudo i wledydd gogledd Ewrop neu i Dde’r Amerig. Fe ddywedodd gweinidog yn llywodraeth Sbaen yr wythnos ddiwethaf fod hyn yn beth da, y byddai Sbaen yn elwa yn y pen draw.

Nid yw hynny’n wir yn fy marn i. Mae Sbaenwyr wedi bod yn allfudo ers cenedlaethau – mae bron pob dyn dros ei drigain yn y pentref wedi gweithio yn yr Almaen neu yng Ngwlad Belg am sbel. Ond gwaith ffatri yr oedden nhw’n ei wneud, a hala arian gartref, a dod yn ôl mor gynted ag y gallen nhw. Mae’r rhai rwy’n nabod sydd wedi mynd yn ystod y pum mlynedd diwethaf, y ‘goreuon’ dysgedig, wedi mynd i swyddi da fel gwyddonwyr neu reolwyr, wedi mynd â’r gŵr neu’r wejen gyda nhw, a does dim golwg y byddan nhw’n dychwelyd ar wahan i wyliau.

Mae eu bywydau nhw’n datblygu y tu fâs i Asturias a Sbaen. Iddyn nhw fel unigolion, mae’n ddatblygiad da. Ond dyw e ddim yn mynd i wella sefyllfa drychinebus y gymdeithas y maen nhw wedi ei gadael.

Marw’r Fflam
Mieres. Tref fwyaf cymoedd glofaol Asturias. Man cychwyn chwyldro’r gweithwyr ym 1934. Neithiwr roedd y tyrfaoedd ar y stryd eto – 30,000 o bobl yn ôl y trefnwyr -  ond y tro hwn i geisio amddiffyn diwydiant sydd wedi crebachu gyda’r blynyddoedd. Llai na 2000 o lowyr lle bu 60,000.

I fod yn onest, roedd gan yr hen ganeri hwnnw mwy o obaith. Mae llywodraeth Sbaen (PP, adain dde) wedi gwneud yn hollol eglur na fyddan nhw hyd yn oed yn talu’r cymorthdal llai a gytunwyd o dan gynlluniau Brwsel. Echdoe, cawsom wybod na fyddan nhw’n caniatau i lowyr ymddeol yn gynnar: rhaid iddyn nhw aros i’r pwll ei hunan gau. Canlyniad hynny? Wel, dyw’r cwmniau preifat sy’n rhedeg nifer o’r pyllau ddim wedi bod yn talu cyflogau eu gweithwyr ers misoedd. Mae 250 o lowyr y glo caled yn y gorllewin newydd eu towlu ar y clwt heb hyd yn oed yr arian hynny, heb sôn am unrhyw daliad arall dyledwy.  Mae’r cwmniau preifat hefyd wedi bod yn gwerthu miliynau o dunnelli o lo oedd i fod yn cael ei gadw ar gyfer problemau brys, ac yn awr yn gorfod esbonio lle mae’r arian.

Sumbol yw’r pyllau, a hyd yn oed y glowyr, erbyn heddiw. Mae 25,000 mâs o waith yn y cymoedd yn barod, chwarter cyfanswm diweithdra Asturias, felly bydd 2000 yn rhagor ddim yn gwneud fawr o wahaniaeth. Ond maen nhw’n sumbol nerthol, llewyrchus, nid yn unig yma ond drwy gydol Sbaen. Glowyr Asturias oedd yn arwain, yn ceisio newid y byd er gwell i’r werin bobl, ym 1934 ac eto ym 1962 yn ystod unbeniaeth Franco.

I ble’r aeth yr ysbryd, y syniadau, y dadlau am egwyddorion a moddion? A drôdd llwyddiant y wladwriaeth ddemocrataidd-sosialaidd yn y pendraw yn grasfa i’r gweithwyr? Nid yn Asturias yn unig, nid yn Sbaen, ond bobman yng ngorllewin Ewrop. Pawb yn troi’n ddefnyddwyr yn hytrach na gwneuthurwyr.  Dechrau o’r dechrau fydd rhaid. O’r ‘gwaelod’, o’r stryd, i gynnau fflam eto yn llygaid y diobaith.

Mae gyda fi erthygl yn y rhifyn cyfredol o Planet ar hanes glowyr Asturias.

Yn eu Blodau
ydbysen

coeden geirios

botwm crys

Y tri hyn yn gyffredin iawn yn yr ardal hon yn ystod y gwanwyn. Rhyw 2km o’r môr (y Cantabrico) ydym ni, yn nwyrain talaith Asturias yng ngogledd Sbaen. Ond er eu bod yn gyffredin, maen nhw’n brydferth hefyd.

O’r Ardd: Cynllun Newydd
Arwydd arall bod y tymor yn troi: heddiw am y tro cyntaf eleni roeddwn yn gallu eistedd ar y teras ar ôl brecwast a gadael i’r haul sychu ‘ngwallt.

Ond i’r gwaith wedi hynny, achos mae gyda ni gynllun i wneud gwely newydd ar waelod y graig , ar y ffordd y bydd pobl yn dod i fewn. Ie, pawb fan hyn yn dod i ddrws y bac hefyd.

Mae’n weddol amlwg yn y llun: mae creigiau byw y galchfaen  (y rhai sydd â’u lliw’n lasach) yn sefyll mâs fel asennau ac yn gadael pocedi hirgul, weithiau’n ddwfn, weithiau ddim. Mae hynny’n berffaith i’r planhigion brodorol, ac felly maen nhw’n cael bod yn y rhan wyllt uwchben y tŷ, ond fan hyn rwyf i’n moyn cael rhwybeth mwy ffurfiol. Mae’r cerrig eraill sydd eisoes wedi cael eu dodi i fewn yn dod o’r un graig (o fewn yr ardd) ond am ryw reswm yn edrych yn felyn. Bydd y glaw yn eu glasu nhw hefyd. WEdyn byddwn ni’n cludo pridd o’r domen gompost ac o lefydd eraill i wneud gwely dyfnach ac ehangach.

Mae’r darn hwn yn gwynebu’r dwyrain ond yn cael haul y rhan fwyaf o’r dydd. Bydd y cyfan yn ymestyn hyd at y rhosmari yn y cefn – mae’r saets oedd wrth ei hymyl wedi marw yn ystod y gaeaf, ond roedd yn saith mlwydd oed felly dim cwyno. Y bwriad yw rhoi cymysgedd o blanhigion parhaol (isel) a blodau blynyddol fydd yn denu gwenyn a pheillwyr eraill.  Fel hyn fyddwn ni ddim yn colli’r olygfa sy’n codi drwy lefelau creigiog ac yn arwain ar y tŷ.

Cofnod arall yn fuan i weld sut y bydd pethau’n mynd.

Dyheu am y Gwanwyn
Mae’r blodau gwyllt, fel finnau yn ffaelu aros munud mwy. Eisiau’r haul, eisiau mwy o oleuni arnom ni. Fore heddiw roedd hi’n bwrw mor galed fel nad oedd hi ddim yn bosib gweld pen yr ardd yn glir. Y prynhawn yma, oherwydd ein bod ni ar y galchfaen, roedd popeth wedi sychu’n ddigon i gerdded ar y tir, a siawns imi grwydro mannau gwyllt yr ardd i weld beth oedd yn digwydd.

clychau’r gog Sbaenaidd

Am unwaith lliw’r camera sy’n driw: mae cyffyrddiad porffor i’r rhain, ac maen nhw’n fyrrach na rhai Cymru. Maen nhw’n dod yn ôl bob blwyddyn, ond byth yn lledu o’r banc caregog o dan y coed cyll.

A beth am y cyfuniad bach hwn? Glesyn y coed (yn tyfu mewn poced yn y graig), blodyn y taranau, ac, am y tro cyntaf eleni, helianthemum.

Gobaith y bydd hi wedi sychu digon erbyn yfory inni wneud rhywbeth heblaw chwynnu.