Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 14, 2010

Dianc rhag yr Eira

Pan gyrhaeddom ni yma ddydd Mawrth dim ond un stribedyn ar hyd yr arfordir oedd yn arddangos glesni arferol Asturias – y Costa Verde. Roedd y gweddill yn dringo’n wyn llachar hyd at y mynyddoedd, a bron pob heol rhwng ein ‘paradwys’ bach ni a gweddill Sbaen ar gau.
Erbyn heddiw, mae’r dymheredd wedi codi, y glaw-ac-ysbeidiau-heulog wedi dychwelyd, a hyn yn oed yr iar-fach-yr-haf gyntaf wrthi’n chwilio am flodau.
Yn y mynyddoedd, y Picos de Europa a gweddill y Cordillera Cantabrica, mae’r eira’n drwch, yn lluwchfa. Mae’r trigolion wedi hen arfer; wedi’r cwbwl, mae’r mynyddoedd yma’n nes at 3000m na 3000 troedfedd. Mae pobl yn dal i gadw cadwyni i ddod ar olwynion y car: rwy’n cofio Nhad yn defnyddio nhw pan oeddwn yn ferch fach.
Yn y pentrefi uchaf, mae’r tato a’r wynwns a’r ffa yn aros eu tynged ceginol mewn stordai sy’n cael eu codi ar bileri rhag y llygod mawr. A’r hams a’r selsig yn hongian yn y simnai.
Dyw’r gaeaf yn Asturias ddim mor galed ag yr oedd hi, chwaith. Mae’r hen bobl yn cofio amser pan nad oedd hi’n bosib cael llysiau ffres cyn y Pasg. Ac roedd y llysiau hynny’n dod o’r ardd; roedd y ‘centimos’ prin yn mynd ar goffi neu olew.
Gwaith yr ardd yn Ionawr:
tocio’r coed ffrwythau
ymrafael a’r mieri (eto)
peidio a throedio ar y tir gwlyb.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: