Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Ionawr 16, 2010

Paradwys (gan ymddiheuro i Sir Fôn)

Mae arfordir dwyreiniol Asturias yn dwyn y llysenw ‘Paradwys’ – el paraiso – enw sydd erbyn hyn yn cael ei ddefnyddio gan fwrdd twristiaeth y dalaith ar gyfer y cyfan.
Mae sawl rheswm wedi cael eu cynnig am yr enw, a dyma fy ffefryn.

Yn nyddiau cynnar yr ugeinfed ganrif, roedd y diwydiant glo ar ei anterth yng nghymoedd canol Asturias. Roedd y glowyr yn ennill arian a fyddai’n destun breuddwydion i’w cefndryd yn ôl ar y fferm. Ac yn ystod yr haf, pan oedden nhw’n cael cyfle i ddianc o’r gwaith trwm tanddaearol a’r llwch, bydden nhw’n dod gyda’u teuluoedd ar y trên i arfordir y dwyrain: rhwng Llanes a Ribadesella gan fwyaf. A nhw fedyddion yr ardal yn baradwys, oherwydd y glesni naturiol, y mynyddoedd yn gefn a’r môr yn lân.
Maen nhw’n dal i ddod hyd heddiw. Mae’r hen drên gyda’i cherbydau pren yn gwneud un daith bob blwyddyn i ddathlu dechrau tymor y gwyliau; mae’r gweddill yn cyrraedd yn eu ceir.
A lle fuon nhw unwaith yn cysgu mewn pabell, yn awr mae gan lawer un ei dŷ haf ei hun, a’i wyrion a’i deulu hyd at y nawfed ach yn heidio yno bob haf.


Responses

  1. Powys Paradwys Cymru….


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: