Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 2, 2010

y mochyn athronyddol

Mae’r cyfuniad o’r ddau arfer newydd sy gyda fi eleni – cerdded am hyn-a-hyn o amser bob dydd ac ysgrifennu blog – yn llythrennol wedi gwneud imi feddwl. Wrth ei throedio hi tua’r clogwyni unwaith yn rhagor mae’r meddwl yn effro i ddatblygu syniadau sydd mae’n debyg wedi bod yn cysgu yno ers sbel.
Ac wrth gwrs yr ydych chi’r darllenwyr yn gallu dweud a yw hynny wedi dwyn ffrwyth sydd werth ei fwyta.
Yr hen bobl, er enghraifft. Roeddwn yn mynd dros y blog yna y bore ma, ac yn meddwl am y bobl sy’n hapus eu byd mewn pentref bach. Ac yn sydyn yn gweld mor debyg yw’r syniad hwnnw i hen gwestiwn Athroniaeth Flwyddyn Gyntaf: ydy hi’n well bod yn fochyn dedwydd neu’n Socrates mewn poen meddwl?
Ar y pryd, roeddwn i gant y cant o blaid Socrates, ond efallai taw mater o oedran oedd hynny. Erbyn hyn rwy’n gweld sawl ffordd o edrych arni. Mae mynd mawr ar arbenigwyr, ar bobl sy’n gwybod popeth am bwnc cul iawn: onid dyna yw’r pentrefwyr, dedwydd neu beidio?
Rwy’n dal i gredu y dylai pawb gael cyfle i ymestyn, i brofi llefydd eraill a dysgu sgiliau newydd. Dyw’r hen ffordd o fyw ddim yn ddigon yn y byd sydd ohoni.
Trychineb ardaloedd gwledig Asturias, fel rhai o bentrefi cefn gwlad Cymru, yw bod cymaint o bobl wedi diflannu am byth, a’r sgiliau newydd gyda nhw.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: