Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 9, 2010

Canu Ffarwel

Mae caneuon gwerin Asturias yn llawn ‘ffarwel’. Fel ymhob gwlad fach dlawd, mae hanes y crwt sy’n gadael cartref er mwyn gweld y gwledydd pell yn un gyfarwydd.
Ond roedd y ffarwel heddiw i rywun oedd yn dychwelyd i’w gwlad ei hun. Saesnes, merch a ddaeth yma gyda’i phartner yn chwilio am fywyd gwell. Bu pethau’n anodd o’r cychwyn cyntaf. Roedd e’n methu cael gwaith ac yn ei chael hi’n anodd dysgu’r iaith. Cafodd hi – fel merched yn gyffredinol yn fy mhrofiad i- fwy o hwyl ar y Sbaeneg, ac roedd yn barod i gymryd y gwaith oedd ar gael, mewn cafes, ac yn dysgu Saesneg i oedolion. ( Mae mynd mawr ar y dosbarthiadau Saesneg: hyd yn ddiweddar doedd yr iaith fain ddim yn cael ei dysgu mewn ysgolion, yn awr mae’n bolisi swyddogol i’w hybu fe.)
Ar ol 3 neu 4 blynedd, fe roes e’r ffidil yn y tô a mynd yn ôl i Loegr. Doedd eu perthynas nhw ddim yn gallu gwrthsefyll y gwahanu.
Ac yn awr mae hi hefyd yn teimlo mai digon yw digon. Ond dwi’n amau dim na fydd hi’n dod nôl rywbryd, i’r Paradwys Naturiol (fel y mae’r Astwriaid ar wasgar yn ei adnabod).


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: