Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 14, 2010

Gaeaf Caled – Newid Hinsawdd?

Mae’r gaeaf yma yn oerach nag arfer drwy gydol Sbaen, gan gynnwys Asturias. Yr wythnos hon mae dynion y tywydd yn darogan mwy o oerfel – a glaw/eira – yn symud o’r De i’r Gogledd. Mae’r De, eleni fel y llynedd, wedi gweld llawer mwy o law, a’r rhan fwyaf yn dod ar ffurf stormydd sydd wedi gwneud niwed i’r cynhaeaf olewydd. (Ond o leiaf fydd y cyrsiau golff ddim yn dioddef, mae’r gwyliau’n saff.)
Yma ar arfordir Asturias mae’r tywydd wastad yn fwy cymhedrol, ond mae’r gwanwyn yn cymryd ei amser.
Ac yn y fforwms lleol mae’r dadlau wedi dechrau: beth a wnelo hyn â’r newid hinsawdd sydd yn poeni gymaint ar lywodraethau’r byd?
Hanner a hanner yw hi ar hyn o bryd rhwng y rhai sy’n dweud bod gaeaf eleni yn eithriad y gellid ei ddisgwyl mewn hanner canrif o gynhesu, ac eraill sydd o’r farn ei fod yn profi nad oes newid hinsawdd yn digwydd o gwbl.
Efalli mewn hannercanrif arall fe gawn wybod pwy oedd yn iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: