Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 19, 2010

Pawb a’i Fys…

Cannoedd o bobl yn cyfrannu i fforwms papurau newydd heddiw am yr ystum a wnaeth y cyn-brif weinidog José María Aznar yn Oviedo ddoe.
Roedd hen gyfaill (neu gi bach) Bush a Blair, yr un a ddanfonodd milwyr Sbaen i Irac ac a geisiodd beio ETA am y bomio erchyll ym Madrid yn 2004, ym mhrifddinas Asturias yn rhoi araith am gyflwr gwael yr economi. Aelodau ieuenctid y blaid geidwadol oedd y gynulleidfa, ac roedden nhw wedi llogi un o stafelloedd darlith y brifysgol. Safai nifer o fyfyrwyr yn ei erbyn, yn galw am iddo wynebu llys am y rhyfel yn Irac. Ac fe drôdd arnyn nhw a gwneud ystum sy’n cael ei alw’n ‘peineta’ (crib), hynny yw, dangos ei fys yn uchel.
(llun Reuters, a ymddangosodd yn El País, yw hwn)
Yn amlwg doedd e ddim mewn sefyllfa beryglus: does neb o’r protestwyr yn agos ato. Roedd e jyst yn dangos nad oes dim ots ganddo am beth wnaeth nac am beth mae pobl yn meddwl amdano. Yr un hen gân: roeddem ni’n gwneud yr hyn oedd yn iawn.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: