Neithiwr, fe gyrhaeddodd y gwyntoedd cryfion yr oedd pobl y tywydd wedi bod yn darogan ers dyddiau. Gyda’r nos, ni symudodd yr un trên nac awyren yn Asturias, jyst rhag ofn. Ond wedi hyn oll, bach oedd y difrod. Rhan o do ysgol wedi’i chwythu i’r llawr. Cwpl o danau bach ar y mynydd wnaeth ddim parhau’n hir.
Newyddion mawr heddiw yw bod tri arall o ‘arweinwyr’ ETA, mudiad cenedlaethol milwrol/arfog/eithafol Gwlad y Basg, wedi eu harestio yng ngogledd Ffrainc. Dyna 32 o aelodau honedig o ETA sydd wedi eu cadw yn y ddalfa eleni: un bob yn ail ddiwrnod. Ac mae’n enghraifft arall o’r cydweithio sydd yn awr rhwng Sbaen a Ffrainc; ar un pryd yr oedd celloedd cyfan yn gallu byw am hydoedd yn ardaloedd gwledig Basg de-orllewin Ffrainc.
Mae’r sefyllfa yn un gymhleth yng Ngwlad y Basg ei hun. Nid wyf yn arbenigwr (o bell ffordd), ond yn etholiadau cymunedol 2009, fe gollodd y PNV, y cenedlaetholwyr Basg, reolaeth am y tro cyntaf. Un o’r brif resymau oedd bod y pleidiau cenedlaethol llai, oedd a chysylltiadau (fe’i benderfynwyd gan y llys) ag ETA, wedi eu gwahardd rhag sefyll. Ac roedden nhw wastad wedi rhoi digon o bleidleisiau i’r PNV iddyn nhw ffurfio llywodraeth.
Ac i ddeall pam oedd hynny wedi digwydd, mae’n rhaid cofio bod newid barn mawr wedi dod ar ôl y bomio erchyll yn Madrid ym 2004. Roedd pobl wedi blino ar deroristiaeth, o dramor neu o’r penrhyn Iberaidd. Maen nhw am gael ffordd arall i gyrraedd cytbwysedd rhwng Euskadi a Madrid.
Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Chwefror 28, 2010
Nerth, Grym, Trais
Ymateb
Gadael Ymateb
Categorïau
- #pethaubychain
- adar
- addysg
- amaeth
- amgylchedd
- arian
- arth
- Asturias
- Basg
- blodau
- blog
- bwyd
- Catalunya
- cerdded
- chwyldro
- coginio
- cymdeithas
- Cymru
- cynllunio
- dawns
- defaid
- diweithdra
- dur
- dŵr-twym
- economi
- encina
- Enol
- enw
- enwau
- enwau Cymraeg
- eog
- ETA
- etholiad
- Ewrop
- FEVE
- ffa
- ffair
- ffermwyr
- ffilm
- ffos
- ffrwythau
- ffurfiau
- ffyrdd
- fiesta
- Franco
- gaeaf
- Galicia
- garddio
- Garzón
- gazpacho
- geiriau
- gellyg
- Gilliam
- Glan Clwyd
- glanhau
- glaw
- glo
- glowyr
- gorymdaith
- Guadamia
- guaje
- gwair
- gwaith
- gwanwyn
- gwarchae
- gwartheg
- gwas
- gwastraff
- gwin
- gwisg
- gwleidyddiaeth
- gwrthdystio
- gwyliau
- gŵyl
- hacio
- haf
- hanes
- hapusrwydd
- haul
- hedfan
- hela
- hen bobl
- hinsawdd
- hofrennydd
- hunan-lywodraeth
- iaith
- iechyd
- ieuenctid
- indianos
- Irac
- karst
- Las Medulas
- Lastres
- lemwn
- llaeth
- llifogydd
- llong
- llosgi
- lluniau
- llwybr
- llyfr
- llynnoedd
- llys
- llywodraeth leol
- machlud
- macsu
- mafon
- marchnad
- môr
- Melilla
- merched
- mimosa
- morfil
- mwyngloddio
- myfyrwyr
- myn
- mynydd
- mynyddoedd
- narcissus
- natur
- nofio
- nos
- Nueva
- ogof
- olew
- orennau
- paneli-haul
- parc
- pasg
- Patagonia
- Pelayo
- peldroed
- pensiynwyr
- pentref
- perlysiau
- persli
- perthynas
- Picos
- picos de europa
- planhigyn
- plant ysgol
- poblogaeth
- polje
- pont
- pori
- protest
- pupur
- pwmpen
- pysgod
- pysgota
- pysgota. percebes
- pysgotwyr
- Quijote
- ras
- rhedeg
- rheilffordd
- Rhufeinig
- rhyfel
- Ribadesella
- rysait
- saer
- Santiago
- sêr
- Sbaen
- Scarlets
- seidr
- Sella
- siopa
- storio
- streic
- swyddi
- tai
- tai gwydr
- tapas
- tato
- tân
- tegeirian
- teirw
- teithio
- teledu digidol
- Tito Bustillo
- tomatos
- traeth
- trafnidiaeth
- trefi
- treftadaeth
- tren
- triniaeth
- tristwch
- troseddau
- turlach
- twristiaeth
- tyfiant
- tywydd
- Uncategorized
- undebau
- Urriellu
- Villa
- wynwns
- xiriga
- y Forwyn Fair
- ymddeol
- ymfudo
- ymgyrch
- ymwelwyr
- ynni-solar
- yr hafod
- ŵyn
Dw i ddim yn arbennigwr ar ar sefyllfa Gwlad y Basg chwaith, ond nid 'barn y bobl' sydd golygu bod y PNV, sef plaid cenedlaetholgar cwbl gymhedrol ddim mewn grym, ond triciau budur gan yr awdurdodau a wnaeth amddifadu canran sylweddol o'r boblogaeth rhag gallu pleidlisio dros y blaid o'u dewis.Cysylltiadau honedig ag ETA oedd y rheswm a roddwyd dros wahardd papur dyddiol Basgeg Egunkaria saith mlynedd yn ôl. Dw i wedi bod yn ceisio dilyn yr achos, ond gan nad ydyw i'n siarad Sbaeneg (na basgeg) a bod yr holl beth yn cael ei anwybyddu gan y wasg Brydeinig, mae'n anodd gwybod beth sy'n digwydd.Cafodd yr achos ei ohurio cyn dolig pan gyfaddef y swyddogion heddlu a wnaeth gais am gau'r papur nad oeddent yn cofio gwneud y cais na pham. Mae'r achos i fod wedi ail ddechrau mis diwetha dw i'n meddwl, ond dw i ddim wedi clywed dim.Faswn i'n synnu dim na chafodd y pleidiau eraill cendlaethoglagar eu gwahardd ar dystiolaeth mor dila.Roedd y Llywodraeth Sosialaidd yn Sbaen yn ymddangos fel ei bod yn gwend camau mawr i ddod a heddwch i'r ardal drwy drafod gyda ETA. Ond rwan dw i'n credu bod nhw'n chwarae yr un triciau budur a'r PP ac am weld Gwlad y Basg yn troi yn le treisgadr eto, gan iddyn nhw sylweddoli bod Gwlad y Basg (h.y. rhanbarth Euskadi) heddychlon yn casglu momentwn i gynnal refferendwm ar annibyniaeth drwy ddulliau gwbl gyfansoddiadol, a tydyn nhw ddim eisiau gweld hynny'n digwydd.
By: Rhys Wynne on Mawrth 1, 2010
at 10:39 pm
Diolch Rhys. Y fi sydd ar fai am beidio gwneud yn ddigon eglur taw barn pobl yn penrhyn yn gyffredinol sydd wedi newid. Dyna beth dwi'n clywed wrth siarad â chymdogion, ond hefyd gydag ymwelwyr o rannau eraill o Sbaen.
By: Cath on Mawrth 2, 2010
at 2:39 pm