Cyhoeddwyd gan: cathasturias | Mawrth 24, 2010

Pincio at y Pasg

Es i am dro rownd y pentre’r prynhawn yma, a gweld yr arwyddion cyntaf bod ‘Semana Santa’ , yr wythnos santaidd sydd yn arwain at Sul y Pasg, yn dechrau’r penwythnos yma. O fod yn fanwl gywir, gwelais i’r arwydd cyntaf yn y farchnad y bore ‘ma. Uwchben y stondin llysiau roedd rhes o ‘ramos’ yn hongian; mae’r rhain yn cael eu gwneud o balmwydd neu olewydd ac yn cael eu bendithio yn yr offeren ‘Domingo de Ramos’ neu Sul y Blodau.
Y prynhawn yma roedd murmur y torrwr gwair yn uchel, a chlec y secateurs yn dod yn rheolaidd wrth i bobl bincio’u gerddi ar gyfer yr wythnos fawr. Hyd yn oed i’r rhai sydd byth yn mynd ar gyfyl yr eglwys, mae Semana Santa yn fawr. Dyma ail dymor gwyliau Sbaen, yn bwysicach o lawer na’r Nadolig.
Bydd y tai haf i gyd yn llawn a’r meibion a’r wyrion yn dychwelyd o Oviedo, neu Madrid, neu Brwsel. Bydd y bar ar y traeth yn agor am y tro cyntaf eleni, er gwaetha’r gorchymyn llys gafodd y perchennog i ddymchwel rhan ohono.
Rhaid i bopeth fod ar ei orau; a dyna pam rŷn ni gyd yn cael gwared o’r chwyn a’r planhigion na oroesodd yr oerfel, ac yn dodi sglein ar y ffenestri. Blas cynta’r gwanwyn, efallai, ond gobaith am yr haf hefyd.


Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s

Categorïau

%d bloggers like this: